Â鶹ԼÅÄ

Emoji baner Cymru ar gael i'w defnyddio am y tro cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Baner

Mae emoji baner Cymru wedi cael ei gyhoeddi ac ar gael i'w defnyddio am y tro cyntaf.

Cafodd yr emoji sêl bendith gan Unicode, y corff rhyngwladol sy'n eu datblygu, yn gynharach eleni.

Fe wnaeth Unicode gytuno i ychwanegu baneri Cymru, Yr Alban a Lloegr yr un pryd.

Ni chafodd baner Gogledd Iwerddon ei hystyried gan nad oes ganddi statws swyddogol.

Mae gan gwmnïau megis Apple, Google, Microsoft a Facebook nawr y dewis o'u hychwanegu i'w systemau.

Cafodd yr ymgyrch i sefydlu emoji baneri gwledydd Prydain ei ddechrau gan Jeremy Burge o Emojipedia a phennaeth cyfryngau cymdeithasol Â鶹ԼÅÄ Cymru, Owen Williams.

Mae'n bosib na fydd modd gweld yr emoji newydd ar rai cyfrifiaduron a ffonau symudol ar hyn o bryd fodd bynnag, yn dibynnu ar ba systemau sy'n eu gweithredu.

Ffynhonnell y llun, Twitter/Â鶹ԼÅÄ Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Neges trydar gan Â鶹ԼÅÄ Cymru yn cyhoeddi fod yr emoji newydd wedi cyrraedd