Â鶹ԼÅÄ

Uned Hergest: 'Newid trefn' wedi marwolaeth cyn-glaf

  • Cyhoeddwyd
Michael Bryn Jones

Mae swyddogion iechyd yn dweud eu bod wedi gwneud gwelliannau wedi marwolaeth dyn o Landudno fu'n chwilio am help mewn uned iechyd meddwl.

Fe ddiflannodd Michael Bryn Jones, 39, ar ôl dod draw at ddrysau uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ar 3 Ebrill 2016.

Cafwyd hyd iddo wedi crogi mewn coedwig ar 21 Mehefin.

Clywodd cwest ei fod yn glaf yn Hergest tan rai dyddiau cyn ei farwolaeth, a'i fod yn dal i ddiodde' o baranoia a phryder wedi gadael yr ysbyty.

'Difaru'

Dywedodd Robat Hughes, y nyrs yn uned Hergest wnaeth siarad gyda Mr Jones yn ystod oriau mân 3 Ebrill, ei fod yn difaru peidio gofyn iddo os oedd eisoes yn cael triniaeth iechyd meddwl.

Fe ddywedodd bod dim doctoriaid yno'r noson honno oherwydd salwch, ond dywedodd ei fod wedi dweud wrth Mr Jones bod doctoriaid yn yr adran frys a damweiniau.

Yn ôl Dr Stuart Porter, y seiciatrydd ymgynghorol wnaeth adolygu'r digwyddiad, dylai "pethau fod wedi cael eu gwneud yn wahanol".

"Dylai rhywun fod wedi mynd â Michael Bryn Jones i'r adran frys a damweiniau", meddai. "Mae hi hefyd yn arfer da i ddilyn hynny gyda galwad ffôn."

Newid y drefn

Fe ymddiheurodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i deulu Mr Jones, a dweud bod y drefn o ddelio gydag achosion o'r fath wedi cael ei newid.

Wrth ddod i'r casgliad fod Mr Jones wedi lladd ei hun, dywedodd y Crwner Nicola Jones y dylai fod 'na "fwy o ymdrech wedi bod i'w berswadio i ddod i mewn i uned Herget am asesiad llawn o'i gyflwr.

"Aeth i'r uned honno i chwilio am help, a chafodd o 'mohono."