Â鶹ԼÅÄ

Bara lawr Cymreig yn cael statws gwarchodedig Ewropeaidd

  • Cyhoeddwyd
bara lawr
Disgrifiad o’r llun,

Mae bara lawr yn cael ei wneud gyda gwymon sy'n cael ei ferwi a'i dorri'n fan

Mae un o brydau traddodiadol Cymru wedi bod yn llwyddiannus wrth wneud cais am statws gwarchodedig.

Bydd bara lawr Cymreig wedi ennill dynodiad arbennig o dan gyfraith Ewropeaidd, sy'n golygu na all gynhyrchwr o unrhyw wlad arall ddefnyddio'r enw.

Mae'r saig yn cael ei wneud o wymon Nori, sy'n cael ei gasglu ar arfordir Cymru.

Bydd y bwyd yn ymuno a chynnyrch fel halen môr o Ynys Môn, tatws newydd o Sir Benfro a chig oen Cymreig, sydd eisoes wedi derbyn y statws.

Mae'r statws yn cydnabod bwydydd sy'n cael eu cynhyrchu, eu prosesu a'u paratoi mewn ardal benodol gan ddefnyddio arbenigedd cydnabyddedig.

Mae 80 o gynhyrchion wedi eu diogelu yn y DU, sy'n cynnwys bwydydd, gwinoedd, cwrw, seidr, gwirodydd a gwlân ar hyn o bryd.