Â鶹ԼÅÄ

Cyhoeddi mai Owen Evans fydd prif weithredwr newydd S4C

  • Cyhoeddwyd
S4CFfynhonnell y llun, S4C

Mae S4C wedi cyhoeddi fod Owen Evans wedi ei benodi yn brif weithredwr y sianel i olynu Ian Jones.

Mae Mr Evans yn Ddirprwy Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, gyda chyfrifoldeb am Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus.

Ymunodd â'r gwasanaeth sifil yn 2010 fel Cyfarwyddwr Addysg Uwch, Sgiliau a Dysgu Gydol Oes i'r Llywodraeth.

Rhwng 2008 a 2010 roedd yn gyfarwyddwr elusen Busnes yn y Gymuned yng Nghymru, ac am 10 mlynedd cyn hynny bu'n gweithio i BT gan gynnwys cyfnod fel aelod o dîm Prydeinig BT ar ddatblygu eu strategaeth band-eang.

Fe wnaeth Ian Jones gyhoeddi ei fwriad i adael ym mis Rhagfyr y llynedd, ar ôl bod yn y swydd ers pum mlynedd.

'Uchel ei barch'

Fe dderbyniodd ei addysg yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth cyn graddio mewn economeg ym Mhrifysgol Abertawe.

Bu'n aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg rhwng 2005 a 2010, ac ar hyn o bryd mae'n aelod o fwrdd ymgynghorol elusen Marie Curie yng Nghymru.

Dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C: "Rydym yn ffodus iawn i fedru penodi arweinydd i S4C ar gyfer y blynyddoedd nesaf sydd wedi profi ei allu mewn cymaint o feysydd.

"Mae Owen wedi dangos fwy nag unwaith yn ei yrfa'r ddawn i addasu a derbyn cyfrifoldebau mawr a newydd, gan gynnwys ym meysydd cyfathrebu technegol a'r iaith Gymraeg.

"Mae'n arweinydd uchel ei barch gyda phrofiad arbennig o adeiladu partneriaethau. Gyda'r unigolion talentog sydd eisoes yn gweithio i S4C, gallwn edrych ymlaen i'r dyfodol yn hyderus."

Bydd Mr Evans yn cymryd drosodd fel prif weithredwr ym mis Hydref.