Â鶹ԼÅÄ

Prifysgol Caerdydd wedi torri ei chynllun iaith

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol CaerdyddFfynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr ymchwiliad ei gynnal i Brifysgol Caerdydd yn sgil cwyn gan fyfyriwr

Mae Prifysgol Caerdydd wedi methu cydymffurfio gyda'i chynllun iaith ei hun, yn ôl adroddiad.

Yn y ddogfen, mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn dweud bod y sefydliad wedi mynd yn groes i chwe chymal o'i rheolau.

Mae'r methiannau'n cynnwys gyrru e-bost uniaith Saesneg, a pheidio monitro'u cynllun iaith yn ddigonol.

Dywedodd y brifysgol wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw eu bod yn "derbyn y canfyddiadau" yn yr adroddiad ac yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r argymhellion yn y ddogfen. Maent hefyd yn dweud eu bod "wedi ymrwymo i roi ei Chynllun Iaith Gymraeg ar waith yn llawn".

Prifysgol wedi 'methu'

Dyma'r tro cyntaf i Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws gynnal ymchwiliad yn edrych ar gynllun iaith Prifysgol Caerdydd, a hynny i ymchwilio i lwyddiant i gadw at ei chynllun iaith neu beidio.

Daw'r adroddiad, gafodd ei chyhoeddi ar 28 Ebrill, yn sgil cwyn gan fyfyriwr ym mis Rhagfyr 2015.

Roedd y person hwnnw wedi derbyn e-bost uniaith Saesneg i'w groesawu i'r brifysgol.

Roedd hefyd wedi cael ymateb Saesneg gan Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth i e-bost wnaeth ei anfon yn Gymraeg.

Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad bod y brifysgol wedi "methu ag ymateb yn Gymraeg i ohebiaeth a dderbyniwyd yn Gymraeg, na chafodd gweithdrefnau eu dilyn wrth anfon cylchlythyr ac e-bost safonol a'i bod wedi methu â gohebu gyda'r achwynydd yn ei ddewis iaith ar fwy nag un achlysur".

Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r tro cyntaf i Gomisiynydd y Gymraeg gynnal ymchwiliad oedd yn craffu ar gynllun iaith Prifysgol Caerdydd

Mae'r adroddiad hefyd yn feirniadol o'r ffordd y mae'r brifysgol yn monitro cydymffurfiad â'i chynllun iaith.

Ers i'r cynllun iaith ddod i rym ym mis Chwefror 2014, bu newidiadau strwythurol o fewn y brifysgol, ac nid yr un grŵp llywio sydd bellach yn gyfrifol am weithredu'r cynllun.

Dywedodd y comisiynydd nad oedd hi wedi ei "bodloni" bod y trefniadau newydd "yn ddigonol er mwyn sicrhau bod y cynllun iaith yn weithredol ar draws y sefydliad".

Croesawodd gydnabyddiaeth y tîm newydd bod angen gwelliant ar draws y brifysgol ynglŷn â gweithredu'r cynllun iaith, ond dywedodd bod ganddi bryderon.

"Nodaf... bryder ynghylch absenoldeb cefnogaeth y grŵp cynghori'r iaith Gymraeg arfaethedig hyd nes i'r safonau ddod i rym, yn benodol oherwydd bod ei gylch gorchwyl yn cynnwys rhai gweithgareddau sy'n berthnasol i'r cynllun iaith, megis derbyn adroddiad blynyddol ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg."

Ychwanegodd yr adroddiad bod y brifysgol wedi torri cymal arall o'i chynllun iaith drwy "fethu ag ymdrin â chwyn gan fyfyriwr am gyflawniad y cynllun iaith".

Ond mae'r ddogfen yn cydnabod mai camgymeriad wnaeth arwain at hynny am fod cwyn arall o natur debyg wedi ei gwneud i wasanaethau iaith Gymraeg y brifysgol, a bod y corff wedi cynnig ymddiheuriad i'r myfyriwr.

Mae'r comisiynydd yn nodi pedwar argymhelliad i'r brifysgol:

  • "Adolygu a darparu gwybodaeth ynghylch ei threfniadau gohebu";

  • Sicrhau bod "trefniadau llywodraethu mewn perthynas â'r Gymraeg wedi eu cymeradwyo ar lefel uchaf o fewn y Brifysgol ac yn ddigonol a ffit i bwrpas";

  • Darparu copi o gofnodion cyfarfodydd wrth sôn am faterion sydd yn ymwneud â'r iaith;

  • Sicrhau bod ei system gwynion ynglÅ·n â'r Gymraeg yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.

'Camau rhagweithiol'

Dywedodd llefarydd bod "Prifysgol Caerdydd yn derbyn y canfyddiadau yn adroddiad Comisiynydd y Gymraeg".

Ychwanegodd: "Mae'r Brifysgol yn gweithio ei ffordd drwy'r argymhellion sydd yn yr adroddiad ac mae eisoes yn cymryd nifer o gamau rhagweithiol i fynd i'r afael â nhw.

"Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i roi ei Chynllun Iaith Gymraeg ar waith yn llawn yn ogystal â bodloni gofynion Deddf yr Iaith Gymraeg."

Dywedodd Manon Elin o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg bod yr "adroddiad damniol" yn dangos bod y brifysgol "wedi methu â sicrhau gwelliant ers nifer o flynyddoedd".

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd newid mawr wedi i'r Safonau ddod i rym yn ddiweddarach eleni, pan fydd pwerau cryfach gan y Comisiynydd i sicrhau eu bod yn cadw at eu gair."