Â鶹ԼÅÄ

Ceisio hybu sgyrsiau iechyd meddwl gydag ymgyrch newydd

  • Cyhoeddwyd
Plentyn tristFfynhonnell y llun, Thinkstock

Cael ysgolion yng Nghymru i siarad am iechyd meddwl fydd neges ymgyrch genedlaethol fydd yn cael ei lansio ddydd Mercher.

Mae ymgyrch Amser i Newid Cymru yn cynnal peilot mewn naw ysgol gyda'r nod o ddelio gyda'r stigma all ddod yn sgil problemau iechyd meddwl.

Yn ôl ffigyrau mae un o bob 10 o bobl ifanc yn cael problemau iechyd meddwl.

Bydd y cynllun yn gweithio gyda disgyblion, athrawon, rhieni ac aelodau staff.

Cafodd Amser i Newid Cymru ei lansio yn 2012 ond bryd hynny roedd y sylw pennaf ar wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o iechyd meddwl ymysg oedolion.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Nod y cynllun yw herio'r stigma sy'n gysylltiedig â'r cyflwr

Dywedodd Lowri Wyn Jones, Rheolwr Rhaglen amser i Newid Cymru: "Mae salwch meddwl yn rhywbeth sy'n gallu effeithio arnom ni i gyd, beth bynnag fo'ch oedran.

"Dyma pam ei bod mor bwysig dechrau herio'r stigma sy'n gysylltiedig â'r cyflwr yn gynnar mewn bywyd."

Fis Mai y llynedd cafodd 12 ysgol yng Nghymru eu dewis i gymryd rhan mewn ymysg cydweithwyr a disgyblion.

Bydd y cynllun diweddaraf yn cael ei lansio yn Ysgol Gyfun y Coed Duon ddydd Mercher.