Â鶹ԼÅÄ

Y Cymro cyhyrog

  • Cyhoeddwyd
flex

Mae o'n ddyn cyhyrog ac wedi ennill nifer o gystadlaethau mwya'r byd magu pwysau neu 'bodybuilding'.

Bydd cyfle i ddod i nabod James 'Flex' Lewis, sy'n wreiddiol o Felinfoel yn well ar 21 Ebrill pan fydd S4C a'r actor Julian Lewis Jones yn dilyn parotadau'r Cymro ar gyfer cystadleuaeth Mr Olympia.

Bu'n sôn wrth Cymru Fyw am ei fywyd newydd yn Florida a sut mae e wedi dilyn yn ôl troed ei arwr, Arnold Schwarzenegger:

Bwyta 'bob dwy awr'

Dwi byth yn osgoi ymarfer, hyd yn oed pan dwi ochr arall y byd gyda fy noddwyr yn Abadan neu ar daith yn Awstralia.

Hyd yn oed os ydw i wedi hedfan am 24 awr ac mae fy nghorff yn dweud wrtha i ei bod hi'n 3am neu os oes rhaid i mi hedfan i dalaith arall, mae'n rhaid i mi ymarfer cyn gwneud unrhyw beth arall.

Rwyt i'n gwneud cynllun, neu rwyt ti'n cynllunio i fethu.

Rydw i'n gwneud gwaith cardio yn syth ar ôl codi. Wedyn byddai'n cymryd cipolwg ar fy nyddiadur i weld pryd mae gen i gyfarfodydd neu alwadau/cyfweliadau. Rwy' hefyd yn darllen fy mhost gan ffans ac ateb negeseuon.

Erbyn hyn mae angen trefnu negeseuon dyddiol ar y cyfryngau cymdeithasol.

Hyd yn oed pan nad ydw i yn ymarfer, prin iawn fydda i'n bwyta rubbish. Rydw i'n bwyta bob dwy neu dair awr, yn ffitio hyn i mewn wrth ddelio â'r busnes, ynghyd â cheisio sefydlu rhai eraill.

Dwi ddim yn brin o hunan-ddisgyblaeth. Dwi'n cofio clywed pan o'n i'n fachgen bach mod i "methu gwneud" neu "methu bod" yn rhywbeth yn y byd chwaraeon, felly dwi wastad wedi eisiau profi mod i'n gallu gwneud rhywbeth... ac yn ei wneud e.

Mae'r teimlad yma hefyd wedi chwarae rhan wrth i mi ddatblygu fy musnes.

Dechreuodd fy nghwmni yr un pryd â dechreuais i gystadlu yn 2003, ac roedd 'na gymaint o bobl oedd yn dweud y byddai'n fethiant - daeth y cwmni yna yn un o'r goreuon yng Nghymru.

Fe wnes i ennill gwobr Gŵr Busnes Ifanc y Flwyddyn ac es i 'mlaen i gyflogi pobl leol.

Felly pan ddes i i'r UDA, yn adnabod un person, doedd pethau ddim o fy mhlaid i.

O'n i'n clywed yr un hen straeon roeddwn i wedi eu clywed gydol fy mywyd, felly roedd rhaid i mi, wrth gwrs, eu profi nhw'n anghywir hefyd.

Rydw i nawr yn bencampwr ac yn brawf eich bod yn medru llwyddo, os ydych chi'n credu ynddoch chi eich hun.

Disgrifiad o’r llun,

Flex wrthi'n perfformio

Cefndir mewn rygbi

Ges i'r llysenw Flex pan o'n i tua chwech oed ac yn chwarae rygbi ar yr asgell! Do'n i byth y boi mwyaf, ond ro'n i'n gyflym ac yn chwim ac roedd hynny yn fy helpu i ddod mas o daclau, gan ddefnyddio fy hyblygrwydd (flexibility) i wibio heibio i chwaraewyr, gan gael yr enw 'Flex' - neu bryd hynny, 'Flexy'!

Rydw i'n dda iawn am wthio fy hun. Fe wnes i droi'n broffesiynol yn ifanc iawn, a dechrau teithio yn ôl ac ymlaen o'r UDA yn aml, felly fy nod oedd dod yn un o'r goreuon yn y gamp ar draws y byd.

Yn union fel cynllun busnes, mae angen cynllun blwyddyn, tair blynedd a phum mlynedd. Mae f'amcanion yn rhai uchel ac rydw i'n mynd am beth ydw i ei eisiau mewn bywyd. Mae'r teulu yn bwysig iawn i mi hefyd wrth wthio fy hun ymlaen.

Dyw'r bobl mwyaf llwyddiannus mewn bywyd byth yn arafu. Heblaw am gyfoeth a llwyddiant, beth sydd yn eu gyrru ymlaen? I fi, cadw fy nheitl yw'r brif flaenoriaeth, ac nid cuddio mewn ogof.

Ffynhonnell y llun, Flex Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Flex gyda'i dad. Mae ei deulu yn gefnogol iawn ohono ac yn teithio dros y byd i'w wylio'n cystadlu

Byddai hi mor hawdd i mi wneud beth dwi angen ei wneud o ran y cyfryngau ac ymarfer yn unig. Ond beth fydd pobl yn ei gofio amdana i pan ddaw fy ngyrfa i ben?

Rydw i wedi bod yn ffodus iawn i deithio'r byd a chwrdd â ffans mewn llefydd nad oes neb arall o'r gamp broffesiynol wedi bod.

Dyna pam ydw i'n derbyn y gymeradwyaeth fwyaf pan ydw i'n cerdded ar lwyfan Olympia. Mae rhoi nôl i'r cefnogwyr yn hollbwysig.

Crwt o Lanelli

Rydw i wedi setlo yma yn America, gyda chartref a busnes. Ond dyw hynny ddim yn golygu mod i wedi newid - rwy'n dal yn grwt o Lanelli.

Rydw i'n gwisgo'r dair pluen ar fy mraich â balchder, ac yn y byd ffitrwydd, rydw i'n cael fy ngalw yn 'Welsh Dragon'.

Byddai'n hiraethu am adre', ond rydw i'n gwybod fy mod i'n cynrychioli'r wlad ar lefel uchel. Does 'na neb wedi ei wneud o'r blaen yn y gamp hon.

Ffynhonnell y llun, Arnold Expo
Disgrifiad o’r llun,

Flex yn cael ei holi gan ei arwr, Arnold Schwarzenegger

Rwy' eisiau symud i'r byd teledu. Dwi ddim yn trio bod y seren fawr nesaf, ond yn hytrach, bod yn esiampl i athletwyr y dyfodol, i'w dysgu i byth roi'r gorau iddi ac i ddilyn eu breuddwydion.

Mae Arnold Schwarzenegger wastad wedi bod yn arwr i mi, a gwrthododd roi'r gorau iddi, a doedd ei acen byth yn rwystr, ond yn hytrach yn gymorth.

Mae fy acen Gymreig a fy mhersonoliaeth fywiog wedi rhoi llawer o gyfleoedd i mi yn fy ngyrfa, a dwi'n gwybod, os ydw i'n rhoi'n meddwl ar rywbeth, mi na'i gyrraedd fy nod.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mi ddwedon ni ar y dechrau ei fod o yn gyhyrog!