Â鶹ԼÅÄ

"Rhedeg am fy mywyd"

  • Cyhoeddwyd
russ
Disgrifiad o’r llun,

Russell Williams

Ag yntau ond yn 29 oed cafodd un dyn o Aberteifi sioc fwyaf ei fywyd. Roedd Russell Williams wedi cael trawiad ar y galon. Ers y digwyddiad hwnnw bron i ddeng mlynedd yn ôl, mae e'n rhedeg chwe diwrnod yr wythnos, ac yn cael blas ar gymryd rhan mewn ambell i driathlon. Mae'n rhannu ei stori gyda Cymru Fyw.

"Doedd dim rhybudd blaenllaw, fe ddaeth y trawiad fel sioc llwyr. I ddechrau, roeddwn i'n teimlo fel fy mod wedi tynnu cyhyr yn fy ysgwydd, ac yna aeth pethau'n waeth.

"Yn sydyn iawn, roedd e'n teimlo fel pe bai rhywun yn sefyll ar fy mrest, ac yn araf bach, yn tynnu'r aer i gyd mas o fy ysgyfaint," meddai Russell Williams, wrth gofio nôl i'r digwyddiad ym mis Tachwedd 2008.

Yn dad i Lowri, wyth oed ac Efan, sy'n ddyflwydd, mae ail-fyw'r trawiad yn anodd i'r gŵr 38 oed.

Ond mae'n ddiolchgar o'r bobl o'i gwmpas ar y pryd, oherwydd roedd rhai ohonyn nhw wedi adnabod yr arwyddion.

"Daeth hi'n amlwg i'r rheiny oedd o fy nghwmpas fy mod i'n cael trawiad wedi i fi sôn bod gen i boen yn saethu i lawr fy mraich, a dechreuodd dau o fy mysedd i blycio.

"Os na fyddai rhywun wedi fy ngorfodi i eistedd, bydden i wedi disgyn yn y fan a'r lle," meddai Russell Williams, wrth gofio yn ôl i fis Tachwedd 2008.

Daeth yr Ymatebwyr Cyntaf yn sydyn iawn, ac adnabod yr arwyddion, a chafodd fynd i'r ysbyty'n syth.

"Ro'n i yn yr ysbyty am bythefnos, ac erbyn hyn mae gen i ddau stent yn y brif wythïen tu ôl fy nghalon. Er nad oedd yna achos i fy nhrawiad, bu farw fy nhad-cu yn ifanc ar ôl cael trawiad ar y galon anferth, felly mae'n rhedeg yn y teulu," meddai.

Ffynhonnell y llun, Russell Williams
Disgrifiad o’r llun,

Russell a'i deulu

Newid blaenoriaethau

Cyn cael y trawiad, roedd Russell Williams yn byw bywyd normal o ddydd i ddydd, yn gweithio ac yn mwynhau bywyd, meddai.

"Doedd y trawiad ddim yn wake up call yn syth ond unwaith aeth pethau nôl i normal, a phan ddechreuais i weithio eto, wnaeth rhywbeth glicio, ac yn sydyn iawn roedd edrych ar ôl fy nghorff yn flaenoriaeth."

Erbyn hyn mae e wedi cymryd rhan mewn saith marathon, yn cynnwys Marathon Eryri dair gwaith, a nifer o ddigwyddiadau bach eraill wnaeth ei helpu i gyflawni'r rasys mwy heriol.

"Fy mhrif gyflawniad oedd cwblhau Ironman Wales yn Ninbych y Pysgod y llynedd, mewn 13 awr a 59 munud. Nofio am 2.4 milltir, beicio am 112 milltir a marathon 26.2 milltir.

"Ar y gweill eleni mae cyflawni dau Ironman arall, a Marathon Eryri am y pedwerydd tro!" meddai.

Roedd Russell wedi penderfynu yn fuan iawn wedi'r trawiad nad oedd e am ddal yn ôl mewn bywyd, ac mae'r awydd i lwyddo yn ei gario.

"Ar ôl y trawiad, ro'n i'n isel - er nad oeddwn i'n ei gydnabod ar y pryd. Wrth edrych yn ôl, ro'n i'n grac ac yn rhwystredig am gyfnod hir.

"Roedd gorfod cymryd pedair tabled y dydd am weddill fy mywyd yn anodd i ddygymod ag e."

Ar y pryd hefyd, roedd ei wraig yn disgwyl eu plentyn cyntaf, felly roedd hynny'n ffactor i geisio brwydro, meddai.

"Roedd hi'n benderfyniad hawdd i ddechrau rhedeg, ac mae'n rhaid i bawb fod yn ofalus, trawiad ar y galon neu beidio.

"Roedd fy noctor yn hapus, a digwydd bod mae e yn yr un clwb rhedeg a fi. Dwi wastad yn holi os ddylai cyflymder fy nghalon fod mor uchel wrth redeg, ac mae e jest yn chwerthin ac yn dweud ei fod yn hollol iawn, ac yn profi fy mod i'n dal i fod yn fyw!"

Ffynhonnell y llun, Russell Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Russell yn ceisio ysbrydoli eraill i edrych ar ôl eu cyrff

Mynd fel y gwynt

Wrth ymarfer corff a rhedeg chwe diwrnod yr wythnos, mae Russell Williams yn benderfynol o ddal ati, a dangos i'w galon pwy yw'r bos.

"Sa i'n poeni o gwbl erbyn hyn am gael trawiad arall. Mae e'n debygol o ddigwydd, ond yn llai tebygol erbyn hyn nawr fy mod i ar gyffuriau ataliol a bod gen i galon gryfach.

"Un peth wnes i ddysgu o'r trawiad yw, beth bynnag a ddaw, fe ddaw. Dwi methu rheoli os ydw i'n mynd i gael trawiad arall, felly man y man brwydro 'mlaen, a gweld be' ddaw!"

Erbyn hyn, mae e wedi ysgogi ei wraig, Tracy, i redeg hefyd, a hithau wedi cyflawni dau hanner marathon, ac mae ganddi fwy ar y gweill.

"Dwi'n teimlo hefyd fy mod i'n dangos i fy mhlant fod ymarfer corff a bod yn actif yn beth normal mewn bywyd, a gobeithio y byddan nhw'n cadw'n heini heb orfod meddwl o flaen llaw am wneud."

Dyw rhedeg ddim yn hawdd i neb i ddechrau, meddai, ond yn enwedig i rywun sydd wedi dioddef o drawiad y galon.

Ond mae cyngor Russell Williams yn un syml.

"Jyst gwnewch e. Mae'n well i chi ddechrau rhedeg yn araf, camau bach. Ond jyst gwnewch e!"

Stori: Llinos Dafydd