Â鶹ԼÅÄ

Gostyngiad mewn tai cymdeithasol gwag yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
TeuluFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae'r nifer o dai cymdeithasol gwag yng Nghymru wedi gostwng yn ôl ffigyrau diweddar.

Allan o 227,347 o gartrefi cymdeithasol, roedd 4,340 o dai gwag yn 2015/16.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod tai cymdeithasol yn "adnodd gwerthfawr".

Blaenau Gwent sydd gyda'r nifer uchaf o dai gwag (4.1%) wedyn Wrecsam (3.1) a Castell Nedd Port Talbot (3%) gyda Thorfaen a'r nifer isaf o dai gwag (0.7%).

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y "galw am dai cymdeithasol wedi lleihau ers y 1980au ers cyflwyno'r cynllun hawl i brynu.

"Y llynedd fe wnaethom gyflwyno mesur i gael gwared â'r cynllun hawl i brynu er mwyn gwarchod stoc Cymru o dai cymdeithasol rhag lleihau ymhellach.

"Fe wnaethom hyn drwy sicrhau fod tai ar gael ar gyfer pobl sy'n methu cymryd mantais o'r farchnad dai i brynu neu rentu".

Taliadau hwyr

Roedd ffigyrau hefyd yn dangos bod gostyngiad yn nifer y bobl oedd yn hwyr gyda thaliadau rhent neu mewn dyled i'r gymdeithas tai.

Roedd 73,469 o denantiaid yn hwyr gyda thaliadau gyda 2% o'r rheiny yn hwyr o 13 wythnos.

Roedd gan Gaerdydd 9,070 o denantiaid mewn dyled allan o 25,041 gyda 6,617 o daliadau'n hwyr yn Abertawe ble mae 20,500 o denantiaid.

Ceredigion sydd gyda'r nifer isaf o denantiaid (3,248) ac roedd bron i hanner mewn dyled i'r gymdeithas dai.

Dywedodd Clarissa Corbisiero-Peters, sydd yn ddirprwy brif weithredwraig Tai Cymdeithasol Cymru - corff sy'n cynrychioli cymdeithasau tai yng Nghymru: "Mae cymdeithasau tai yn gweithio'n galed i gefnogi tenantiaid i leihau ei dyledion pan fydd hynny'n codi.

"Mae hyn yn cynnwys cyngor ar gefnogaeth ariannol yn ogystal â chynlluniau ad-dalu".