Undeb yn galw am ohirio ad-drefnu cwricwlwm Cymru

Dylai ad-drefniant o'r cwricwlwm yng Nghymru gael ei ohirio am nad ydi athrawon yn barod ar ei gyfer, yn ôl undeb.

Dywedodd Owen Hathway o'r NUT eu bod wedi gofyn i Lywodraeth Cymru oedi cyn cyflwyno'r newidiadau fydd yn gofyn i athrawon ddysgu sgiliau newydd.

Ond mae'r llywodraeth yn dweud bod rhaid cydnabod fod yr holl ddiwygiadau maen nhw'n ei baratoi wedi eu cysylltu â'i gilydd.

Mae'r NUT yn cynnal eu cynhadledd flynyddol yng Nghaerdydd nes ddydd Mawrth.

Arolwg

Mae disgwyl y bydd y cwricwlwm newydd yn weithredol erbyn 2021.

Ond dywedodd pwyllgor o Aelodau Cynulliad ym mis Chwefror fod anawsterau gyda gweithredu'r cwricwlwm newydd, gafodd ei awgrymu gan yr Athro Graham Donaldson.

Yn ôl arolwg gan y Cyngor Gweithlu Addysg gafodd ei gyhoeddi wythnos diwethaf, doedd 38.6% o athrawon ysgol a 71.1% o athrawon llawn oedd wedi ymateb ddim yn ymwybodol neu'n lled ymwybodol o adroddiad ac argymhellion yr Athro Donaldson.

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth yr Athro Graham Donaldson gynnal adolygiad o'r cwricwlwm presennol ar ran Llywodraeth Cymru yn 2014

Dywedodd Mr Hathway, swyddog polisi NUT Cymru: "Yn amlwg nid oedd canran sylweddol o athrawon yn ymwybodol o'r argymhellion. Mae ymatebion yr ydym wedi ei dderbyn yn adlewyrchu'r arolwg yna.

"Mae'r proffesiwn dysgu'n gefnogol i'r hyn gafodd ei gynnig gan yr Athro Donaldson, ond rwy'n credu bod ymdeimlad ein bod yn symud yno'n rhy gyflym.

"Beth sy'n cael ei ofyn ydi i newid meddylfryd athrawon o gael eu rheoli'n fanwl i sefyllfa lle maen nhw'n cael cyfarwyddiadau i fod yn arloesol, yn greadigol ac yn hyblyg.

'Peidio rhuthro'

"Mae'n beth da, ond mae'n set o sgiliau gwahanol a dydyn nhw ddim o reidrwydd wedi paratoi'r proffesiwn i gynnig y cwricwlwm fel y bydd am fod.

"Dydyn ddim am ruthro i mewn i hyn, dyw ysgolion ac athrawon ddim wedi eu paratoi ar ei gyfer.

"Mae'n well ei gael e'n gywir na'i wneud e'r funud yma."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r gweithlu addysg yn chwarae rhan ganolog wrth gynllunio dyfodol y cwricwlwm a'r system addysg hefyd, gan gyfrannu at y Safonau Dysgu Proffesiynol newydd.

"Mae'n bwysig cydnabod bod yr holl ddiwygiadau yr ydym yn ei ddatblygu wedi cysylltu gyda'i gilydd."