Oedi diagnosis wedi cynnydd mewn cleifion alergedd

Disgrifiad o'r sainDywedodd Dr Harri Pritchard wrth Radio Cymru ei fod "wedi synnu" gan y ffigyrau

Mae mudiad sy'n cynnig cyngor i gleifion gydag alergeddau yn dweud bod pobl yn gorfod aros yn hirach i gael cymorth arbenigol am fod mwy o alw am y gwasanaethau.

Yn ôl Holly Shaw, nyrs ymgynghorol gydag Allergy UK, mae cynnydd wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf yn nifer y cleifion ym Mhrydain sydd yn dweud bod ganddyn nhw alergeddau.

"Mae'n ymwneud gyda'n ffordd ni o fyw heddiw," meddai wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw.

"Os ydych chi'n edrych yn ôl 20, 30 mlynedd yn ôl pan oeddech chi'n mynd i'r ysgol, doedd hi ddim yn gyffredin clywed am blant yn y dosbarth yn cael pigiad adrenalin neu alergeddau ar gyfer mathau arbennig o fwyd.

"Mae'n bendant rhywbeth sydd wedi digwydd tua'r ddegawd ddiwethaf."

Cynnydd

Dangosodd ffigyrau yng Nghymru a Lloegr bod cynnydd o 615% wedi bod yn nifer y bobl oedd yn mynd i'r ysbyty gydag anaffylacsis rhwng 1992 a 2012.

Ac yn ôl arolwg barn YouGov yn 2015, roedd 17% o bobl yn y DU yn ystyried eu hunain fel rhywun oedd ag alergedd neu anoddefgarwch bwyd.

Mae'r alergeddau cyffredin yn cynnwys clefyd y gwair, asthma neu ecsema, ac mae'r cyflyrau yn gallu cael effaith ar ansawdd bywyd person.

Disgrifiad o'r llun, Rhai o symptomau ecsema yw croen sych sydd yn cosi ac weithiau yn boenus

Mae cleifion sydd ag alergeddau cymhleth weithiau'n cael eu cyfeirio at wasanaethau arbenigol, ond mae hyn yn gallu golygu oedi o rai misoedd i'r claf meddai Holly Shaw.

"Mae cael diagnosis cywir a phrydlon yn bwysig iawn i gleifion oherwydd maen nhw angen gwybod beth yw eu cyflyrau a chael strategaethau yn eu lle a'r help cywir i reoli'r cyflwr fel eu bod yn gallu byw bywyd mor normal â phosib."

Dyw Louise Jones o Abertawe dal heb gael diagnosis clir o'i chyflwr bedair blynedd ers iddi ddechrau cael alergeddau difrifol.

Ymhlith y pethau mae'n adweithio iddo mae metalau a phlaster, a nifer o fwydydd gwahanol.

"Mae'r cyflwr sydd gen i yn rhan o mastocytosis, ond yn ddiweddar mae wedi cael ei roi mewn dosbarth newydd," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Dyw Louise Jones o Abertawe dal heb gael diagnosis clir o'i chyflwr bedair blynedd ers iddi ddechrau cael alergeddau difrifol

"Y broblem sydd gen i yw nad oes 'na'r un meddyg yng Nghymru yn gallu rhoi diagnosis cywir o fy nghyflwr. Felly mae rhywun sydd 'efo alergeddau difrifol fel fi yn gorfod teithio i Lundain i geisio cael triniaeth effeithiol."

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y rhan fwyaf o gleifion ag alergeddau yn cael help gan eu meddyg teulu.

"I leiafrif sydd â phroblemau mwy difrifol mae amrywiaeth o wasanaethau clinigol arbenigol yn cael eu cynnig gan fyrddau iechyd yng Nghymru," meddai llefarydd.

"O ystyried yr amrywiaeth o symptomau posib, efallai y bydd yn well rheoli cleifion ag alergeddau mewn amrywiaeth o glinigau gwahanol."