Â鶹ԼÅÄ

30,000 o berchnogion cŵn yn torri'r gyfraith medd elusen

  • Cyhoeddwyd
MicrosglodionFfynhonnell y llun, PA

Flwyddyn union ers i ddeddf newydd ddod i rym i sicrhau fod gan bob ci ficrosglodyn, mae yna rybudd fod 30,000 o berchnogion yng Nghymru'n dal i fod yn torri'r gyfraith.

Mae microsglodion wedi eu gosod yn 94% o gŵn Cymru erbyn hyn, sy'n gwneud y gwaith o ddod o hyd i'w perchnogion yn haws.

Er hynny, mae perchnogion yn cael eu hannog i roi microsglodyn yn eu cŵn os nad ydyn nhw wedi gwneud hynny eto, ac i sicrhau fod y manylion sydd wedi eu cofrestru yn gywir.

Yn ôl ystadegau gan elusen y Dogs Trust, fe gafodd 3,193 o gŵn eu haduno â'u perchnogion yn 2015-16 - 15% o'r rheiny o ganlyniad uniongyrchol i gael eu manylion microsglodion.

Ond fe fu'r ymdrechion yn aflwyddiannus mewn sawl achos.

Mae yna rybudd i berchnogion sydd ddim wedi diweddaru eu manylion y gallan nhw golli eu cŵn am byth os yw'r wybodaeth sydd wedi ei chofrestru yn anghywir.

Fe all perchnogion sydd ddim yn cadw at y gyfraith gael dirwy o £340, gyda rhai yn gorfod talu hyd at £500.