Â鶹ԼÅÄ

Tân mawr mewn gwesty ym Mhowys dan reolaeth

  • Cyhoeddwyd
Tan Powys

Mae diffoddwyr gafodd eu galw i dân mawr mewn gwesty ym Mhowys yn dweud bod y safle bellach dan reolaeth.

Cafodd criwiau eu hanfon i'r digwyddiad am 15:30 ddydd Llun yng Ngwesty'r Severn Arms ym Mhenybont, ger Llandrindod.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod pobl yn yr adeilad pan ddechreuodd y tân, ond fod pawb wedi llwyddo i adael yn ddiogel.

Mae gan y dafarn 10 o ystafelloedd gwely, a bydd dronau yn cael eu defnyddio gan yr awdurdodau i archwilio'r difrod i'r adeilad.

Ffynhonnell y llun, Peter Gilbert

Cafodd criwiau diffodd tân o Landrindod, Rhaeadr Gwy, Trefyclo a Llanfair ym Muallt eu galw i daclo'r fflamau, oedd wedi cydio yng nghefn yr adeilad.

Dywedodd y gwasanaeth tân eu bod yn parhau ar y safle er mwyn sicrhau bod y tân wedi diffodd yn llwyr.

"Fe wnaeth ymateb brys ein criwiau, a'u technegau diffodd tân sicrhau na wnaeth y fflamau ymledu i rannau preswyl eraill yr adeilad," meddai rheolwr rhanbarthol y gwasanaeth, Simon Jenkins.

Mae'r gwasanaeth tân nawr yn ymchwilio i achos y tân.