Â鶹ԼÅÄ

Llai yn ysmygu yng Nghymru wedi gwaharddiad

  • Cyhoeddwyd
Llaw a sigaretFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae 'na lai o ysmygwyr nawr na phan ddaeth y gwaharddiad ar ysmygu mewn llefydd cyhoeddus i rym yn 2007, yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru.

Ddydd Sul mae'n 10 mlynedd ers cyflwyno'r gyfraith, a bellach mae 94,000 yn llai yn ysmygu yng Nghymru.

Bellach mae 19% o oedolion Cymru yn ysmygu - o'i gymharu â 24% ddegawd yn ôl.

Bu gostyngiad o 6% yn nifer y bechgyn yn eu harddegau sy'n ysmygu, a 14% yn llai o enethod.

Mae elusen ASH Cymru'n dweud y bu "newid diwylliannol mawr" yn y cyfnod, ond dywedodd grŵp Forest, sy'n cynrychioli ysmygwyr, bod y gwaharddiad wedi effeithio ar dafarndai a chlybiau nos.

Bydd Llywodraeth Cymru'n gwneud sylw ar y ffigyrau ddydd Llun.