Â鶹ԼÅÄ

Presgripsiynau am ddim: 'Buddsoddiad hir dymor'

  • Cyhoeddwyd
tablediFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae presgripsiynau am ddim yng Nghymru wedi bod yn "fuddsoddiad hir dymor" yn iechyd pobl, meddai gweinidog wrth nodi 10 mlynedd o fodolaeth y polisi.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething ei fod wedi cadw pobl allan o'r ysbyty a thorri costau i'r GIG ers cael ei gyflwyno yn Ebrill 2007.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, roedd cost y presgripsiynau o £593m yn 2015 ddim ond £3m yn uwch na'r bil yn 2007.

Ond mynnodd llefarydd y Ceidwadwyr, Angela Burns fod y gost dal yn rhy fawr, gan ddweud y dylai pobl dalu am eu meddyginiaethau os ydyn nhw'n gallu fforddio gwneud.

Eraill yn dilyn

Roedd prisiau presgripsiynau yr un peth ar draws y DU tan 2001, pan gawson nhw eu rhewi ar £6 yng Nghymru gan y llywodraeth Lafur-Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghaerdydd ar y pryd.

Cafodd presgripsiynau hefyd eu rhoi am ddim i bawb dan 25 oed ar y pryd.

Roedden nhw eisoes am ddim i blant, pensiynwyr, pobl ar fudd-daliadau a menywod beichiog - tua 90% o'r cyfanswm.

Cafodd y gost ei leihau cyn cael ei ddiddymu'n llwyr yn 2007, gyda Gogledd Iwerddon yn dilyn yn 2010 a'r Alban yn 2011.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Vaughan Gething wedi amddiffyn y polisi o roi presgripsiynau am ddim

Dywedodd Mr Gething fod presgripsiynau am ddim yn "flaengar ac yn rhan greiddiol o'n gwasanaethau iechyd ni yng Nghymru".

"Ddylai fyth ddod i sefyllfa lle mae pobl sydd â chyflyrau cronig difrifol methu fforddio casglu eu presgripsiynau," meddai.

"Mae sicrhau fod gan gleifion y feddyginiaeth sydd ei angen arnynt nid yn unig yn gwella'u hiechyd a'u lles, mae hefyd yn cynorthwyo'r gwasanaeth iechyd yn ei chyfanrwydd wrth leihau'r nifer sydd yn mynd i'r ysbyty a rhoi llai o alw ar feddygon teulu."

'Dylai rhai dalu'

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn honni fodd bynnag bod cost presgripsiynau am ddim wedi cynyddu o 45% ers i'r syniad o gael gwared â'r ffioedd gael ei gynnig yn 2000.

Dywedodd Ms Burns na ddylai'r GIG "gael ei thrin fel cerbyd bwffe", gan alw am "fodel tecach a fwy fforddiadwy".

"Dyw hi ddim yn iawn fod £5.1m wedi'i wario llynedd ar baracetamol yn unig - sydd ar gael am geiniogau mewn archfarchnadoedd - tra bod rhai cleifion yn methu â chael cyffuriau canser allai fod wedi achub eu bywydau a hynny ar sail cost," meddai.

"Dylai pobl sy'n gallu fforddio gwneud dalu am eu meddyginiaethau, tra dylai'r rheiny sydd methu fforddio talu, neu sy'n byw gyda chyflyrau cronig, dal gael eu meddyginiaethau am ddim."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Angela Burns dylai rhai cleifion sy'n gallu fforddio gwneud dalu am eu presgripsiynau

Dywedodd Dr Dai Lloyd, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd fod ei blaid wedi cefnogi presgripsiynau am ddim i bawb, gan ddweud fod y polisi "yn rhyddhau adnoddau'r GIG o'r fiwrocratiaeth sydd ei angen i gael system prawf moddion fel yn Lloegr".

"Mae'r ffaith bod Gogledd Iwerddon a'r Alban hefyd wedi cyflwyno presgripsiynau am ddim yn dilyn Cymru yn dangos fod hwn wedi bod yn bolisi llwyddiannus," meddai.

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru eu bod yn "parhau i gefnogi presgripsiynau am ddim fel rhan o becyn o ffyrdd sy'n cael eu defnyddio i daclo'r anghyfartaleddau iechyd niferus sy'n ein wynebu".

Yn Lloegr bydd ffi presgripsiynau yn codi ddydd Sadwrn o £8.40 i £8.60.

Ond mae'r Adran Iechyd wedi dweud, oherwydd y nifer helaeth o eithriadau, bod 90% o bresgripsiynau yn cael eu rhoi am ddim.