Cur pen y cyfenwau

Ffynhonnell y llun, Llun stoc

Gyda'r haf ar ei ffordd efallai eich bod chi'n edrych ymlaen at wyliau o haul a hwyl dramor gyda'ch teulu. Ond gwyliwch - os oes gan eich plant ail enw gwahanol i chi, fe allai'r daith adref adael blas cas os nad ydych chi wedi paratoi.

Fe all fod yn sioc fawr i fam neu dad sy'n teithio gael swyddog tollau yn gofyn yn gyhuddgar os mai nhw ydy rhieni eu plant.

Dyna ddigwyddod i Gwennan Mair o Gaernarfon pan gafodd hi a'i gŵr, y canwr Ywain Gwynedd, eu stopio gyda'u mab blwydd oed wrth ddod adre' o Ffrainc adeg cystadleuaeth Euro 2016.

Er eu bod yn briod, mae Gwennan wedi dewis peidio â chymryd cyfenw ei gŵr ac fe benderfynon nhw roi enw cyntaf Ywain yn ail enw i'w mab.

Wrth ddangos eu pasport ar y daith nôl i Wledydd Prydain ar yr Eurostar y cafon nhw eu cwestiynu.

"Roeddan nhw'n sbïo'n flin arnon ni ac yn sganio pasport y mab droen ac yn checio petha ar y compiwtar," meddai Gwennan.

"Doeddan nhw'n cau deud dim byd wrthan ni tan wnes i holi oedd 'na rwbath yn bod.

"Ar y pwynt yna ro'n i'n dechra' mynd yn nyrfys iawn achos o'n i'n meddwl 'ydyn nhw'n mynd i gymryd fy mab i oddi wrthon ni?'

"Wedyn dyma nhw'n deud 'He is not your son?'

"'Yes!' medda fi.

'But he hasn't got the same name as you?'"

Ffynhonnell y llun, Gwennan Mair

Disgrifiad o'r llun, Gwennan ac Ywain a'u mab adre'n saff - ar un pwynt roedd Gwennan yn pryderu bod swyddogion tollau am gymryd eu mab

Eglurodd Gwennan eu bod yn briod a bod gan eu mab yr un ail enw ag enw cyntaf ei gŵr.

Ond doedd y swyddogion ddim yn derbyn hynny o gwbl meddai nes i Ywain egluro ei fod yn draddodiad Cymreig.

"Yr unig ffordd nathon nhw adael inni fynd oedd oherwydd bod gan y mab 'Ywain' fel cyfenw a bod hwnna yn matchio enw cyntaf Ywain.

"Fel arall, dwi ddim yn gwybod be fysa wedi digwydd."

Diogelwch plant

Mae teuluoedd lle nad yw'r plant yn rhannu'r un cyfenw ag un neu'r ddau o'u rhieni yn gyffredin iawn bellach wrth i fwy o bobl ddi-briod gael plant ac wrth i eraill ddewis peidio â rhoi cyfenw teuluol confensiynol i blant.

Mae hyn yn arbennig o wir yng Nghymru lle mae llawer yn dewis y traddodiad o roi enw cyntaf rhiant yn ail enw ar blentyn, gyda neu heb yr 'ap'.

Y cyngor gafodd Gwennan oedd dod â thystysgrif geni ei mab efo hi bob amser, yn enwedig os ydy hi'n teithio ar ei phen ei hun gyda'i mab, a dyna mae wedi ei wneud ers hynny.

Ond mae'n credu bod angen rhoi llawer mwy o wybodaeth am hyn i rieni yn yr un sefyllfa â nhw sydd efallai'n teithio am y tro cyntaf gyda'u plant.

Er fod y profiad wedi bod yn un anghyfforddus iawn i Gwennan ac Ywain, dywed Gwennan ei bod yr un pryd yn falch fod swyddogion yn drylwyr gyda straeon am ddwyn plant yn gyfarwydd i bawb.

Ac yn ôl y Swyddfa Gartref, gwneud yn siŵr fod plant yn ddiogel ydy holl ddiben y system.

"Mae gennym ni ddyletswydd i ddiogelu plant ac i atal rhag masnachu pobl, manteisio rhywiol ar blant a throseddau eraill sy'n cael eu cyflawni yn erbyn plant," meddai llefarydd.

"Dyna pam fod rhaid i staff Rheoli Ffiniau bennu a oes gan yr oedolyn sy'n teithio gyda'r plentyn gyfrifoldeb fel rhiant neu eu bod wedi cael awdurdod rhiant i deithio gyda'r plentyn."

Eu cyngor i rieni sydd â chyfenw gwahanol i'w plant ydy dod â thystiolaeth o'u perthynas gyda'r plentyn efo nhw wrth deithio, er enghraifft:

  • tystysgrif geni neu fabwysiadu
  • tystysgrif priodas neu ysgariad
  • llythyr gan rieni'r plentyn, gyda manylion cyswllt, yn rhoi hawl i'r plentyn deithio gyda chi os ydych chi'n teithio gyda phlentyn rhywun arall.

Mae mwy o fanylion i'w cael ar wefan Llywodraeth y DU (gov.uk) .

Teulu 'apus!

O ran y traddodiad gwahanol o enwi yng Nghymru mae'r Swyddfa Gartref yn dweud fod swyddogion tollau wedi cael eu hyfforddi i ddelio gydag "amrywiaeth eang o wahaniaethau diwylliannol o safbwynt enwau teithwyr a pherthynas deulol" ac o ran sut mae eu dogfennau yn adlewyrchu hynny.

Ond mae diffyg dealltwriaeth o'r traddodiad Cymreig wedi achosi problemau i Shem Llywelyn o'r Borth ger Aberystwyth.

Ei enw llawn yw Shem Llywelyn ap Geraint ap Iorwerth ond mae'n tueddu i ddefnyddio 'ap Geraint' fel cyfenw.

Ffynhonnell y llun, Shem Llywelyn ap Geraint

Disgrifiad o'r llun, Yr Apiaid: Tad Shem, Geraint ap Iorwerth, ar wyliau yn Ffrainc gyda'i wyrion, sydd wedi etifeddu'r cyfenw 'ap Shem'

Mae wedi methu â chael morgais ddwywaith am nad ydy systemau asiantaethau credyd yn gallu delio gyda'r system enwi 'ap'.

Ac roedd ar fin cael ei daflu allan o'r wlad gan swyddogion tollau Awstralia pan oedd yn gweithio yno un haf am nad oedden nhw'n gallu dod o hyd i'w enw dan 'G' am Geraint.

Dim ond drwy awgrymu eu bod nhw'n chwilio dan 'A' y cafodd aros yno.

Mae Shem wedi parhau'r traddodiad teuluol a rhoi'r cyfenw ap Shem i'w blant ac mae'n hen gyfarwydd â chael ei gwestiynu wrth deithio - gyda'i rieni pan oedd yn blentyn a bellach gyda'i blant eu hun.

Ond unwaith mae'n egluro ac yn dangos y cysylltiad rhwng ei enw cyntaf, a'r ail enw 'ap Shem' sydd gan ei blant, maen nhw'n deall meddai: "Pob tro mae pawb yn dweud 'Oh yes, like the Scottish 'Mac''. Mae pobl yn gwybod am y ffordd Albanaidd ond nid y Gymraeg."

"Dwi ddim fel arfer yn mynd â thystiolaeth arall efo fi wrth deithio, ond efallai y gwnâ i tro nesa'."

Yr elfen Gymreig

Mae Gwennan ac Ywain yn disgwyl eu hail blentyn ac yn gwarafun y ffaith y gallai'r profiad yma ddylanwadu ar eu dewis o enw i'r babi newydd.

"Mae o yng nghefn dy feddwl di, os ydy hi'n ferch, ydwi'n mynd i gario'r Mair ymlaen fel ein bod ni ddim yn cael yr un drafferth eto neu os ydy o'n fachgen yden ni'n mynd i gario'r Ywain ymlaen eto?

"Dwi ddim yn licio bod nhw'n fforsio chdi mewn ffordd i orfod meddwl am hynny ond rwbath eitha' Cymreig ydy ein bod ni ddim yn cario 'mlaen y cyfenw a dwi'n meddwl bod o'n dod yn fwy cyffredin."

Ffynhonnell y llun, Llun stoc

Disgrifiad o'r llun, Gwyliau campus i bawb!