Maes B ddim 'ar gyrion' yr Eisteddfod, medd y trefnydd

Dyw Maes B bellach ddim yn faes ar gyrion yr Eisteddfod Genedlaethol, meddai'r trefnydd Guto Brychan.

Eleni mae'n 20 mlynedd ers sefydlu'r maes, sydd yn rhoi cyfle i fandiau Cymraeg berfformio.

Yn 1997 roedd un lleoliad yng nghanol y maes pebyll "ac roedd o'n gallu edrych bach yn llwm", meddai.

Ond mae'r ddelwedd wedi newid a chaffi Maes B, llwyfan y Maes a'r TÅ· Gwerin hefyd ar y prif faes erbyn hyn.

"Mae newid hefyd wedi bod yn y system docynnau i gynnwys pris tocyn mynediad y maes - ac un o'r pethau 'da ni mwyaf balch ohono ydi bod pobl yn dod i weld beth sydd i gael i'w gynnig ar y maes bellach," meddai.

"Gig y Pafiliwn llynedd oedd penllanw'r ymdrechion i ddod â Maes B o'r cyrion.

"Dyw Maes B heb fodoli mewn isolation o'r Eisteddfod, mae 'di bwydo mewn i'r newidiadau a'r ymdeimlad o wÅ·l.

"Mae lot mwy o arlwy ar gael i'w gynnig, ac mae'r gerddoriaeth gyfoes yn rhan annatod o hynny."

Disgrifiad o'r llun, Bydd Candelas yn perfformio ar y nos Fercher

Rhestr lawn y bandiau fydd yn perfformio ym Maes B yn Eisteddfod Ynys Môn 2017:

  • Nos Fercher: Candelas, Ffug, Cpt Smith, Chroma;
  • Nos Iau: Bryn Fôn a'r Band, Fleur de Lys, Calfari, Ffracas;
  • Nos Wener: Sŵnami, Yr Eira, Ysgol Sul, Hyll;
  • Nos Sadwrn: Yws Gwynedd, Y Reu, HMS Morris, Enillwyr Brwydr y Bandiau.

Er y pen-blwydd, does yna ddim bwriad i gael unrhyw fand o'r gorffennol yn perfformio yn Eisteddfod Ynys Môn ym mis Awst.

Yws Gwynedd a'r band sydd wedi eu dewis ar gyfer penllanw'r nos Sadwrn ac mae nifer o enwau cyfarwydd eraill yn perfformio fel Candelas, Yr Eira a Sŵnami.

Ond mae Guto Brychan yn dweud bod hi'n bwysig denu bandiau sydd yn gynhyrchiol yn y sin Gymraeg.

"'Dan ni isho adlewyrchu cryfder y sin. Dyma pwy mae pobl eisiau dod i weld, ac mae gennym ni wedyn fandiau newydd i gefnogi'r rheiny."

Bandiau roc a phop yw'r mwyafrif fydd i'w gweld yn Maes B eto eleni.

Cynulleidfa swnllyd

Ond mae'n dweud eu bod wedi cynnig cerddoriaeth amrywiol yn y gorffennol a bod hynny "ddim wastad wedi gweithio".

"Does 'na ddim pwynt rhoi artist acwstig ymlaen achos maen nhw'n cael eu boddi gan sŵn y gynulleidfa," esboniodd.

"Mae angen gwneud siŵr bod nhw'n gweithio o fewn set-up y sioe, gig nos ydi o ac mae'r gynulleidfa'n mynd i fod yn swnllyd.

"Mae angen adlewyrchu natur y set-up ac mae angen bod yn ymwybodol o ddeinameg y noson."

Disgrifiad o'r llun, Y dorf ym Maes B'n mwynhau

Wrth edrych i'r dyfodol fe fydd y maes yn parhau i newid a datblygu a hynny am fod yr eisteddfod yn teithio i leoliadau gwahanol bob blwyddyn.

Mae Guto Brychan yn teimlo bod newid y fformiwla yn beth da.

"Bydd rhaid edrych ar ffordd wahanol o wneud pethau ar gyfer Caerdydd, allwn ni ddim cael pabell fel bydden ni fel arfer er enghraifft.

"Bydd e'n amrywio o flwyddyn i flwyddyn, ac mae'n gorfodi ni i edrych yn ffres, ac yna ein cadw ni ar ein traed."