Â鶹ԼÅÄ

Diwedd Datblygu?

  • Cyhoeddwyd
datblygu

A yw un o fandiau mwyaf dylanwadol y sin roc Gymraeg wedi perfformio'n fyw am y tro olaf?

Dyna'r awgrym roddodd David R Edwards a Pat Morgan o'r grŵp eiconig Datblygu wrth berfformio set yng ngŵyl Psylence yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontio ym Mangor ar Nos Wener 17 Mawrth.

Bydd y gig, yr olaf erioed o bosibl, yn cael ei darlledu yn ei chyfanrwydd ar raglen .

Roedd y diweddar John Peel ymhlith cefnogwyr mwyaf brwdfrydig y band ac mae cerddorion fel Gruff Rhys, lleisydd y Super Furry Animals wedi siarad yn gyhoeddus am ei ddyled i Datblygu.

Cafodd y grŵp ei ffurfio yn 1982 gan Dave a T Wyn Jones, bechgyn ysgol o Aberteifi, gyda Pat Morgan yn ymuno yn 1984. Roedd y band yn feirniadol o realiti y byd Cymraeg ac yn gwbl ddi-flewyn ar dafod.

Ychydig amser yn ôl bu Dave yn egluro wrth Cymru Fyw sut y dechreuodd Datblygu:

I ddweud y gwir uffern y 6ed dosbarth yn yr ysgol oedd e i ddechrau - y ffaith o'n i ddim eisiau bod yna, teimlo rhwystredigaeth uffernol o orfod gwneud Lefel A a pethe.

O'n i ishe neud rhywbeth yn yr iaith Gymraeg - dwi'n angerddol tu hwnt dros yr iaith. O'n i ishe neud miwsig modern gyda syniade fi am geirie.

O'n i ddim yn gwbod bydde gymaint o gynulleidfa... ond syth bin oedd cynulleidfa, pobl yn troi lan i'r gigs cynnar a prynu'r casets cynnar a phethe. Ddim yn y cannoedd ond digon i rhoi hyder i ni gario 'mlaen.

Ffynhonnell y llun, Datblygu
Disgrifiad o’r llun,

Dave yn canu a Pat ar y gitar

Dim rhagfarn

O'n i ddim yn gweld pwynt canu yn y Saesneg gan taw Cymro ydw i. Gyda lot o'r bands galle nhw ddod o unman, gyda Datblygu chi gallu dweud 'wel mae rhain yn dod o Dde Cymru, neu De-orllewin Cymru yn bendant' chi'n gwbod. So, dyna beth odd y peth rili.

Bydde ni byth wedi canu yn Saesneg. Beth wnes i wneud o'dd aros yn dawel, a gadel yr holl beth ffizzlo mas, y Cŵl Cymru peth 'na. 'Sai yn beirniadu y bandiau 'na am ganu'n Saesneg, neu yn hytrach, 'sgen i ddim rhagfarn tuag aton nhw am ganu'n Saesneg, yn mynd am y pres ac yn y blaen.

Bydde'n well 'da fi weld Mark Roberts o Catatonia yn whare gitâr ar Top of the Pops yn hytrach na gweithio mewn siop cigydd fel o'dd e yn 'neud. O'n safbwynt i, nes i just eistedd nôl a gwylio'r holl beth a gadael iddo fe ffizzlan allan a wedyn, pan oedd yr amser yn iawn, daeth Datblygu nôl 'gyda bang!' gyda EP yn 2012 ac LP yn 2014.

Ffynhonnell y llun, Betsan Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dave a Pat yn dal i fod yn ddylanwadau mawr

Y Gymraeg ar Radio 1

Gaethon ni bump sesiwn gyda John Peel, a sdim unrhyw fand Cymraeg arall 'di cael gymaint o sesiynau. O'n i'n mynd lan i Lundain a chanu'n Gymraeg, gallen i 'di canu'n Saesneg os o'n i am, ond na, o'n i'n canu'n Gymraeg 100% bob tro, achos mai Cymro ydw i.

Disgrifiad,

Datblygu yn siarad gyda Lisa Gwilym am eu gig olaf ym mis Mawrth 2017

O'n i yn cal y sylw, roedd pobl yng Nghymru'n clywed ni ac oedd pobl yn Lloegr yn clywed ni, a 'da ni dal yn cael fanmail o bobl yn Lloegr, just ambell un nawr ac yn y man, a dy'n ni'n ateb nhw. Ma' nhw'n gofyn am y lyrics, a wedyn 'wi'n cyfieithu nhw neu rhoi ystyr y caneuon iddyn nhw.

Ar un adeg ro'n i'n sâl ac yn methu functiono, oedd y doctoriaid yn rhoi ffisig i fi ond doedd e ddim yn gweithio'n iawn, ond mae'r cyffurie dwi'n cal nawr a'r doctoriaid nawr yn berffaith, ac yn cadw fi'n wastad. Yn y gorffennol odd gyda fi broblem gyda alcohol, ond nawr dwi'n gallu rheoli fe. Dwi'n cal ambell i ddrinc ond ddim byd dros ben llestri.

Mae rhai pethau yn y sin Gymraeg dwi ddim yn hoffi heddi. Ma' rhai pethau yn rhy felys i fi, hyd yn oed rhai o'r bands ifanc. Ond os ydych chi'n gwrando ar fandiau fel Ffug, ac ma' agwedd gyda nhw - dwi'n licio nhw. Rwy'n hoffi'r arbrofi mae R Seiliog y ei wneud hefyd,

Dwi'n cadw fy nghlustie ar bethe, mae Radio Cymru yn wych ar ôl 7 o'r gloch yn y nos. Does dim posib plesio pawb o hyd ond dyna fe, rhaid gweud, - I love it!"

(Addasiad yw'r erthygl hon o gyfweliad gafodd Cymru Fyw gyda David R Edwards yn 2014)

Ffynhonnell y llun, Datblygu
Disgrifiad o’r llun,

Datblygu - y dyddiau cynnar