Aled Roberts i arwain adolygiad o'r Gymraeg mewn addysg

Mae Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies wedi cyhoeddi pwy fydd yn arwain adolygiad o gynlluniau strategol awdurdodau lleol Cymru ar gyfer defnydd o'r Gymraeg mewn addysg.

Bydd cyn-Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts yn dechrau ar y gwaith ar unwaith.

Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i baratoi a chyflwyno Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg i weinidogion Cymru eu hystyried.

Rhaid i'r cynlluniau gynnwys targedau a chamau gweithredu clir ar gyfer datblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn ardaloedd y gwahanol awdurdodau.

Yn siarad ar raglen y Post Prynhawn ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru, dywedodd Aled Roberts: "Fe ddywedodd y Gweinidog Alun Davies fod o yn siomedig o ran yr uchelgais yn y cynlluniau, felly prif bwrpas yr arolwg yn y lle cyntaf fydd edrych ar y cynlluniau a gweld os fedrwn ni fynd i'r afael â rhai o'r diffygion."

'Cefndir a phrofiad'

Dywedodd Alun Davies wrth Aelodau'r Cynulliad yn y Senedd ddydd Mawrth: "Yr adolygiad cyflym hwn fydd y cam cyntaf o ran newid pethau.

"Gan ddibynnu ar ganlyniad yr adolygiad hwn, rhaid i unrhyw waith rydym yn ei ddatblygu yn y dyfodol gynnwys y bobl hynny sy'n darparu addysg ar lawr gwlad - athrawon, llywodraethwyr, penaethiaid, a staff cymorth - y rheiny fydd yn chwarae rhan sylweddol er mwyn sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg."

Ychwanegodd y byddai Mr Roberts yn "dod â phrofiad sylweddol a llygaid craff i'r rôl hon, fel cyfreithiwr, cyn-arweinydd awdurdod lleol, llywodraethwr ysgol ac wrth gwrs, cyn-Aelod Cynulliad dros y Democratiaid Rhyddfrydol".

"Mae gan Aled y cefndir a'r profiad sydd ei angen er mwyn dadansoddi'r rhesymau pam nad yw cynllunio ar gyfer y Gymraeg mor effeithiol ag y dylai fod.

"Bydd yn creu cyfres o argymhellion i symud ymlaen â'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Rhaid i'r argymhellion osod cyfeiriad clir i mi ar gyfer newid."

Dywedodd Mr Davies ei fod hefyd am i bob awdurdod lleol ledled Cymru "gyfrannu" at yr adolygiad hwn.

Mae Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r penodiad.

"Mae penodiad Aled Roberts yn un da, ac rydym yn falch bod adolygiad cyflym. O'r hyn rydyn ni wedi'i weld o'r cynlluniau, mae gwir angen adolygiad achos dydyn nhw ddim yn ddigon uchelgeisiol," meddai.

"Wedi'r cwbl, mae 80% o'n pobl ifanc yn cael eu hamddifadu o'r Gymraeg ar hyn o bryd, ac ar gyfradd bresennol y twf byddai'n cymryd dros 800 mlynedd i sicrhau addysg Gymraeg i bawb.

"Mae angen i bob awdurdod sefydlu rhaglen newid fel bod pob disgybl yn gadael yr ysgol yn rhugl eu Cymraeg. Oni bai bod newidiadau radical, wnawn ni ddim cyrraedd y miliwn.

"Mae sylwadau Comisiynydd y Gymraeg yn dangos bod nifer o awdurdodau wedi gweithredu'n anghyfreithlon wrth lunio eu cynlluniau, ac felly eu bod yn agored i her. Byddwn ni fel mudiad yn ystyried ein hopsiynau; yn sicr, allwn ni ddim caniatáu i'r sefyllfa bresennol barhau."