Â鶹ԼÅÄ

Cantores ifanc o Lanrwst yn ennill Cân i Gymru

  • Cyhoeddwyd
cadi
Disgrifiad o’r llun,

Cadi a'i theulu yn dathlu'r fuddugoliaeth

Cadi Gwyn Edwards o Lanrwst wnaeth ennill Cân i Gymru 2017 nos Sadwrn gyda'i chân, Rhydd, ar noson fywiog yng Nghaerdydd.

Daw Cadi, 17, yn wreiddiol o Lanrwst ac mae'n gwneud Lefel AS yn Ysgol Dyffryn Conwy.

Dywedodd ei bod wedi ysgrifennu'r gân ar ei ffôn ar ôl iddi ymweld ag Ynys Llanddwyn, a hi oedd yn ei pherfformio ar y noson yn ogystal.

Fe wnaeth hi ddisgrifio'r gân fel "unigrwydd person sydd eisiau torri'n rhydd oherwydd caethiwed".

Roedd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn Stiwdio Â鶹ԼÅÄ Cymru yn Llandaf eleni, gydag Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn cyflwyno.

£5,000

Roedd 10 cân yn lle'r wyth arferol wedi cael eu dewis ar gyfer y rhestr fer, a dywedodd y beirniad fod hynny'n adlewyrchiad o'r "safon uchel".

Dywedodd y trefnwyr eu bod wedi derbyn dros 100 o ganeuon ar gyfer y gystadleuaeth.

Roedd tair gwobr eleni - gyda'r enillydd yn derbyn £5,000, £2,000 i'r ail, a £1,000 i'r drydedd.

Bydd Cadi hefyd yn cynrychioli Cymru yn yr Å´yl Ban Celtaidd yn ddiweddarach eleni.

Aeth y gystadleuaeth "yn ôl i'w gwreiddiau" eleni, gyda dim mentoriaid, dim beirniaid, dim wal Twitter.

Dywedodd un o'r rhai wnaeth ddewis y rhestr fer, Sion Llwyd cyn y gystadleuaeth: "Mae'r pwyslais ar y caneuon ac fe fyddan nhw'n cael eu perfformio gan gantorion dawnus i gyfeiliant band byw."

Roedd y canlyniad felly ar sail pleidlais y cyhoedd yn unig.

Pryder gan Sophie Jayne Marsh ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth, gyda Fy Nghariad Olaf i gan Richard Vaughan ac Andy Park yn y trydydd safle.

Gweddill y rhestr fer:

  • Ti yw fy Lloeren - Hywel Griffiths

  • Curiad Coll - Hawys Bryn Williams a Gwion John Williams

  • Cân yr Adar - Llinos Emanuel

  • Eleri - Betsan Haf Evans

  • Gelyn y Bobl - Richard Marks

  • Seren - Mari Lovgreen a Geraint Lovgreen

  • Rhywun Cystal â Ti - Eady Crawford