Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Mirain Haf

  • Cyhoeddwyd
bbc

Y gantores a'r actor Mirain Haf sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddi gael ei henwebu gan .

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Syrthio ar y ngwyneb ym mharti pen-blwydd y mrawd ar y ramp i lawr o'r ganolfan hamdden yng Nghaernarfon.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Dieter Brummer o Â鶹ԼÅÄ and Away.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Gesh i wardrobe malfunction yn y perfformiad olaf o'r sioe Amazing Grace. Mi oedda nhw wedi tynhau'n corsets ni, ac wrth ddawnsio i un o'r caneuon, mi nesh i lwyddo i roi 'sioe ychwanegol' i weddill y cast!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Ddoe! Achos bod yng nghariad i di bod yn glên. Dwi'n crio lot mwy wrth fynd yn hyn.

Disgrifiad o’r llun,

Mirain yn canu efo Lisa Jên a 9bach

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n poeni lot gormod a gor-feddwl am betha.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Cwm Idwal a'r lôn heibio Llyn Ogwen. Ma na 'wbath am yr ardal yna sy'n gneud i chdi sylwi pa mor ddibwys wt ti yn y byd ma.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mi oedd Gŵyl Rhif 6 2014 yn eitha epic! Roedd y tywydd yn berffaith, mi oedd Portmeirion yn edrych fatha 'wbath allan o Disney. Dwi wrth fy modd yna.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Triw. Pryderus. Hael.

Beth yw dy hoff lyfr?

Dwi wrthi'n darllen llyfr newydd Ruby Wax ar y funud AMindfulness Guide for the Frazzled - taswn i'n cael hyd i'r amser i'w orffen o - dwi'n siwr y baswn i lot hapusach fy myd!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Mam - dwi'm di gweld hi ers dolig, a ma' gen i hiraeth.

Disgrifiad o’r llun,

Mirain yn canu gyda Ffion ac Elain Llwyd

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Moonlight.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Hel teulu a ffrindia' i gyd at ei gilydd, a chael chwip o barti.

Dy hoff albwm?

Miseducation of Lauren Hill.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu phwdin, a be fyddai'r dewis?

Cwrs cyntaf - mae o'n cyrraedd yn gynt! Unrhywbeth o fwydlen Yottam Ottolenghi.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Fy nai, Efan Jac. Dwisho medru coelio yn Star Wars fatha mae o'n neud, neu Beyonce!

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Carwyn Jones