Â鶹ԼÅÄ

Galw am fwy o gymorth i bobl trawsryweddol yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Huw, Llyr, Diane
Disgrifiad o’r llun,

Mae LlÅ·r Jones wedi dechrau ar y broses fydd yn arwain at lawdriniaeth rhywedd

Mae angen mwy o wasanaethau a chymorth meddygol yng Nghymru i helpu pobl ifanc trawsryweddol, neu transgender.

Dyna alwad teulu disgybl ysgol o Geredigion sydd wedi dechrau ar y broses fydd yn arwain at lawdriniaeth rhywedd, neu gender affirmation surgery.

Cafodd LlÅ·r ei geni'n fachgen, ond mae'r disgybl 16 oed yn dweud ei bod hi wastad wedi teimlo mai merch yw hi.

Ar raglen materion cyfoes , mae'n siarad yn onest am ei theimladau.

"Erioed fi wedi teimlo fel hyn, a phan ro'n i tua 10 oed rwy'n cofio gweld rhaglen am fachgen oedd yn cael transition i fod yn ferch," meddai.

"Ac roedd rhywbeth jyst wedi clicio, ac ro'n i'n meddwl 'Waw - dyna fi'.

"Roedd e'n bwynt mor fawr yn fy mywyd - fe wnaeth hynna newid popeth."

'Angen clinig yng Nghymru'

Nawr mae LlÅ·r - sydd wedi dewis cadw ei henw geni - yn gorfod teithio i Lundain yn rheolaidd ar gyfer apwyntiadau meddygol yng Nghlinig Tavistock.

Dyma'r unig ganolfan arbenigol ar gyfer pobl trawsryweddol o dan 18 oed o dan y gwasanaeth iechyd.

"Dwi ddim yn meddwl y bydden i'n gallu gweld bywyd i fy hunan os fydden i ddim yn gallu gwneud hyn nawr," meddai LlÅ·r.

"Dwi'n meddwl bod 'na angen cael clinig yma yng Nghymru oherwydd bob blwyddyn mae nifer y bobl sy' am gael triniaeth yn cynyddu ac mae mwy a mwy o bobl mas 'na yn mynd drwy'r un sefyllfa."

Ar hyn o bryd mae LlÅ·r yn cael cyffuriau i atal yr hormon gwrywaidd, testosterone.

Ei gobaith yn y pen draw yw cael llawdriniaeth rhywedd, ond mae'n rhaid iddi fod yn 18 oed o leia' cyn fod hynny'n medru digwydd.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid i LlÅ·r deithio i glinig yn Llundain er mwyn cael triniaeth

Mae ei thad, Huw, a'i mam, Diane, yn cefnogi eu plentyn, a'n mynd gyda hi i Lundain.

"Yn anffodus, does dim triniaeth ar gael yng Nghymru," meddai Huw.

"Mae'n ddiwrnod hir a chostus i deithio. Y tro diwetha' aethon ni, er enghraifft, roedd teulu o Abertawe, ni o'r canolbarth, ac roedd teulu arall o ardal gororau gogledd Cymru hefyd. Ro'n ni i gyd wedi gorfod mynd i Lundain, ac mae'n dipyn o daith."

'Gwybod fod LlÅ·r yn wahanol'

Ffermwr yw Huw ym mhentre' Bow Street, ac mae wedi ennill llu o wobrau mewn sioeau ar hyd a lled y wlad am ddangos gwartheg duon Cymreig.

Mae'r adeg pan siaradodd LlÅ·r gydag e' gynta' am fod yn drawsryweddol yn dal yn fyw yn ei gof.

"Sioc, rwy'n credu, oedd yr ymateb cyntaf," meddai Huw.

"Ond o'n i'n gwybod fod LlÅ·r yn wahanol o'r cychwyn. Doliau oedd ei deganau cynta', ac roedd e'n licio gwisgo fel ei fam. Roedd gas gydag e' ddod i'r ffarm, doedd e' ddim yn hoffi hynny o gwbl.

"Ro'n i'n poeni ar y dechrau, achos yn y gymdeithas ry'n ni'n troi ynddi 'dyw rhywun ddim yn dod ar draws pobl transgender.

"Ond ges i syrpreis ar yr ochr orau, ac ry'n ni wedi cael cefnogaeth arbennig o dda."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd mae LlÅ·r yn ddisgybl yn Ysgol Penglais, a bydd rhaid iddi aros nes ei bod yn 18 i gael llawdriniaeth

Ychwanegodd: "Yn y gorffennol fyddai pobl fel LlÅ·r wedi cael eu cloi fyny. Dros y blynyddoedd mae llawer o bobl wedi gorfod byw eu bywydau heb fedru bod yn onest i'w hunain.

"Mae'n debyg fod cynifer ag un ymhob 500 o bobl fel LlÅ·r, ond yn anffodus mae 'na ganran ohonyn nhw yn lladd eu hunain, oherwydd eu bod nhw'n methu bod yn hapus a byw eu bywydau fel maen nhw'n dymuno bod.

"Ac mae honna'n ffaith ddifrifol o drist i fi."

'Cefnogwch eich plentyn'

Mae Huw yn annog rhieni plant trawsryweddol i wrando arnyn nhw er mwyn deall eu teimladau.

"Cefnogwch eich plentyn. Yr un person ydyn nhw heddi ag oedden nhw ddoe. 'Dy'n nhw ddim wedi newid dim.

"'Dy'n nhw ddim yn gwneud dim drwg i neb, maen nhw jyst yn bod yn onest i'w hunain. Ac rwy'n teimlo y dylech chi gefnogi nhw 100%."

Dywedodd llefarydd o Lywodraeth Cymru fod pwyllgor arbenigol yn y broses o ddatblygu gwasanaethau gofal rhywedd penodol i Gymru.

Ychwanegodd bod arian hefyd wedi ei glustnodi yng nghyllideb derfynol y llywodraeth ar gyfer y flwyddyn nesa' er mwyn gwella gwasanaethau gofal rhywedd ar gyfer pobl Cymru.

Mae Manylu i'w glywed ar Â鶹ԼÅÄiPlayer. Bydd yn cael ei ailddarlledu ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru am 16:00 brynhawn Sul, 12 Mawrth.