Â鶹ԼÅÄ

Cynllun newydd yr M4 i 'gael effaith ar ecoleg'

  • Cyhoeddwyd
LlandefennyFfynhonnell y llun, Geograph/Jagger
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r ffordd yn mynd drwy safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig ym Mynwy

Mae'r ymchwiliad cyhoeddus i ffordd osgoi'r M4 wedi clywed y byddai'r ffordd o gwmpas Casnewydd yn cael "effaith andwyol" ar ecoleg a bywyd gwyllt lleol.

Dywedodd yr ecolegydd Dr Keith Jones wrth y gwrandawiad y byddai'r ffordd yn cael effaith ar gynefinoedd "rhywogaethau sydd yn cael eu diogelu".

Ond fe ddywedodd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno mesurau i liniaru unrhyw effaith gan y byddai'r draffordd yn croesi safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

Mae Cyfeillion y Ddaear, RSPB Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn gwrthwynebu'r cynllun.

Mae Llywodraeth Cymru am gael ffordd osgoi er mwyn rhoi hwb i'r economi ac mae'n mynnu nad yw'r M4 bresennol yn addas.

Mae nifer o grwpiau amgylcheddol - gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n cael ei noddi gan y Llywodraeth - a thrigolion lleol yn gwrthwynebu'r cynllun.

Mae'r ffordd sy'n cael ei hargymell yn mynd ar draws Wastadeddau Gwent a phum safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

Prif bwyntiau ffordd osgoi'r M4:

  • Mae Llywodraeth Cymru am adeiladu traffordd chwe llain £1.1bn i'r de o Gasnewydd

  • Bydd y ffordd 12.23 milltir rhwng cyffordd 23A yr M4 bresennol ym Magwyr a chyffordd 29 ger Castleton

  • Bwriedir dechrau ar y gwaith adeiladu yn 2018 ac agor y ffordd yn 2021

  • Mae Llywodraeth Cymru yn dweud nad yw'r M4 bresennol o gwmpas Casnewydd yn cwrdd â "safonau cynllunio modern ar gyfer traffyrdd"

  • Dywed ymgyrchwyr amgylcheddol a thrigolion lleol y byddai'r ffordd yn diffetha hen gorstiroedd Gwastadeddau Gwent a safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig

  • Mae 335 o wrthwynebiadau swyddogol wedi bod a 192 llythyr o gefnogaeth

  • Dechreuodd yr ymchwiliad cyhoeddus yng Nghasnewydd ar 28 Chwefror ac mae disgwyl iddo bara pum mis

Dywedodd Dr Jones, arbenigwr ecolegol a chadwraeth Llywodraeth Cymru wrth yr ymchwiliad ei fod yn "rhagofalus" ac efallai ei fod wedi "goramcangyfrif yr effaith" ar ecoleg a bywyd gwyllt.

Dywedodd y gallai'r prosiect gael effeithiau andwyol tymor hir ar ddyfrgwn ac ystlumod ac mi allai afonydd, morfeydd a chynefinoedd naturiol gael difrod wrth i'r gwaith adeiladu fynd rhagddo.

Ychwanegodd Dr Jones y gallai'r gwaith gael effaith ar le nythu y crychydd - maen nhw wedi bod yn nythu yn y lle arbennig hwn ers 400 mlynedd ac efallai y byddai effaith ar gynefinoedd anifeiliaid a phryfed eraill.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Honnir y gallai'r ffordd osgoi gael effaith ar gynefin y math yma o wenynen

Ychwanegodd Dr Jones ei bod hi'n fwriad gan y llywodraeth i godi twneli arbennig ar gyfer mamaliaid - er enghraifft, mi fydd yna dwnnel arbennig i ddyfrgwn a lle pasio arbennig i lyswennod yn ystod y cyfnod adeiladu.

Dywedodd Mr Jones hefyd y bydd y ffordd newydd gan amlaf yn dywyll. Mi fydd morfa hallt ar lannau'r afon Wysg yn cael ei symud, bydd darpariaeth arbennig ar gyfer moch daear a chartref newydd i ystlumod, ychwanegodd.

Mae'r ymchwiliad yn parhau.

Disgrifiad,

This video reveals the possible route of the M4 relief road