Â鶹ԼÅÄ

Y proffesiwn dysgu mewn 'argyfwng', medd UCAC

  • Cyhoeddwyd
Athrawes mewn dosbaethFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Un o bryderon pennaf undeb UCAC yw'r llwyth gwaith mae athrawon yn delio ag o

Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn dweud bod y proffesiwn dysgu mewn "argyfwng" am fod mwy o athrawon yn penderfynu rhoi'r gorau i ddysgu.

Dywedodd UCAC bod angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys i ddatrys y broblem.

Ond mae'r llywodraeth yn dweud nad ydyn nhw'n "cydnabod dilysrwydd y gair argyfwng yn y cyd-destun yma" a bod y sefyllfa i'w weld yn "sefydlog".

Mae'r undeb yn dweud mai un rheswm mae athrawon yn penderfynu newid gyrfa yw'r llwyth gwaith a bod "gofynion ac atebolrwydd y swydd bellach tu hwnt i bob rheswm".

Maen nhw hefyd yn dweud nad ydy'r sefyllfa'n debygol o newid yn y tymor byr ac bod y byd addysg yn "colli athrawon cydwybodol, ardderchog o'r proffesiwn".

'Cymryd eich bywyd personol'

Roedd Karl Bohana o Lanrug yn athro Cymraeg mewn ysgol uwchradd tan 2016.

Mae'n dweud ei fod wedi gadael y maes oherwydd y diffyg cydbwysedd rhwng ei swydd a'i fywyd personol.

"Y cur pen mwyaf oedd yr holl waith papur a'r holl waith marcio", meddai. "Mae'r holl waith paratoi, yr holl ystod gallu mae'n rhaid i athro deilwra ar ei gyfer o, yr holl adroddiadau, yr holl waith marcio - mae'r holl waith papur i gyd yn cymryd y rhan fwyaf o'ch bywyd personol."

Dywedodd bod hynny wedi'i wneud yn "isel ei ysbryd" a'i fod yn methu cysgu oherwydd y pwysau.

Mae bellach yn rheoli neuadd bingo yng Nghaernarfon, ac yn dweud bod ganddo well cydbwysedd yn ei fywyd - ond ychwanegodd ei fod yn bwriadu dysgu eto.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl UCAC, mae gofynion y swydd "bellach tu hwnt i bob rheswm"

Mae ffigyrau Llywodraeth Cymru yn dangos bod 780 o athrawon Cymru wedi gadael y maes yn 2015.

Y ffigwr yn 2014 oedd 742, cynnydd ar y 722 a adawodd yn 2013 a'r 691 aeth yn 2012. Dyw'r ffigwr ar gyfer 2016 ddim wedi ei gyhoeddi eto.

Mae'r gymhareb rhwng nifer y disgyblion a nifer yr athrawon wedi aros yn weddol gyson yn y cyfnod.

'Cynyddol ddifrifol'

"'Dan ni'n teimlo'i bod hi'n mynd yn gynyddol ddifrifol", meddai Owain Myfyr o UCAC. "Mi fyddan ni'n wynebu sefyllfa o greisis yn fuan.

"Mae athrawon yn methu cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith - dyna 'di'r pryder mwya' a dyna sy'n nadu pobl ifanc rhag dewis dysgu."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae newidiadau i'r gweithlu'n digwydd o ganlyniad i nifer o ffactorau fel y newidiadau i niferoedd disgyblion, a hefyd oherwydd blaenoriaethau yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

"O ddadansoddi'r ffigyrau'n fanylach mae'r sefyllfa i'w gweld yn sefydlog.

"Er bod mwy o bobl yn gadael y proffesiwn cyn pen pum mlynedd wedi cwblhau eu hyfforddiant, mae'r gyfradd a welwyd dros y pedair blynedd diwethaf yn dal i fod yn is na'r lefelau ddeng mlynedd yn ôl.

"Dydyn ni ddim yn cydnabod dilysrwydd y gair argyfwng yn y cyd-destun yma."

Mae'r llywodraeth hefyd yn dweud ei bod yn gweithio gyda phobl yn y maes ynglŷn â llwyth gwaith athrawon.