Â鶹ԼÅÄ

Iechyd meddwl: Agweddau 'mwy postif' medd gwaith ymchwil

  • Cyhoeddwyd
Sad youthFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae tua 120,000 o bobl wedi datblygu "agweddau mwy positif tuag at broblemau iechyd meddwl" ers 2012, yn ôl gwaith ymchwil newydd.

Mae'r sy'n gyfrifol am y gwaith ymchwil yn dweud fod tua un ymhob pedwar o bobl yn debygol o ddioddef rhyw fath o broblemau iechyd meddwl rhywbryd yn eu hoes.

Fe wnaeth arolwg o 400 o bobl ganfod fod cynnydd o 4.7% ymhlith y rhai oedd ag agweddau positif, o'i gymharu â 2012.

Roedd y rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol o'r problemau a'r angen i drin dioddefwyr.

Mae ymgyrch Amser i Newid Cymru yn cael ei rhedeg gan bartneriaeth o dair elusen iechyd meddwl yng Nghymru, sef Gofal, Hafal a Mind Cymru, ac fe gaiff ei ariannu gan gronfa'r Loteri Fawr, Comic Relief a Llywodraeth Cymru.

Yn ôl Amser i Newid Cymru nod eu hymgyrch yw sicrhau fod pobl yn fwy ymwybodol o arwyddion posib, fel eu bod yn gallu cynnig cymorth i aelodau'r teulu, ffrindiau neu gyd weithwyr.

Dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Fe allai salwch iechyd meddwl effeithio ar unrhyw un, unrhyw oedran, ac fe allai gael effaith mawr ar fywydau pobl.

"Tra ei bod yn galonogol fod canlyniadau'r arolwg yn awgrymu fod agweddau pobl tuag at salwch meddwl yn fwy positif erbyn hyn - mae yna dal waith i'w wneud yn y maes yma."