Ateb y Galw: Mici Plwm

Mici Plwm sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Dilwyn Morgan yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Fe ges i fy ngeni yn 'llofft ffrynt' rhif 10, Sun Street Llan Ffestiniog - ma gen i frith atgof o rhywun yn dod i'r llofft i gau y ffenast achos fod yna 'ddrafft'.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Oedd gen i crush ar Sion Corn pob 'Dolig (ddim yn ei ffansio 'chwaith!).

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Heb os - sefyll ar ben twmpath o dywod yn codi llaw ar tua tri chant o Girl Guides a oedd yn gwersylla ger glan y môr Morfa Bychan, ger Porthmadog - fe ddaeth Bob Thomas Obe yn slei a thynnu fy shorts i lawr.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Echdoe - pan syrthiais i oddiar set y beic ar y crossbar.

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Lwcus mai Syr Wynff sy'n gyrru'r beic yma!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n methu'n glir a thyfu er mod i'n byta fy llysiau i gyd.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Llan Ffestiniog - dyna ble ges i fy ngeni a'm magu.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Pob noswyl Nadolig dros y 40 mlynedd ddiwethaf.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Bychan... crwn... tlws.

Beth yw dy hoff lyfr?

Y Beibl.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Emyr Huws Jones (a Sbardun) - fy mets gora i.

Disgrifiad o'r llun, A nesa' heno 'Cavelera Rusticana'!

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Gwylio Bambi am y 421fed tro neithiwr.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Tacluso y ty 'cw.

Dy hoff albwm?

Cavelera Rusticana (Intermezzo).

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - be fyddai'r dewis?

Y Cwrs cynta' a'r ail gwrs - 'Bwyd Môr'.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Syr Wynff ap Concord y Bos heb os.

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Lyn Ebenezer.