Cychwyn gweithdai i godi hyder cleifion canser

Mae gweithdai colur i roi hwb i hyder cleifion canser wedi cychwyn yng ngogledd Cymru.

Yr elusen Look Good Feel Better sydd yn cynnal y sesiynau am ddim i fenywod ar y cyd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Y bwriad yw dysgu sgiliau cosmetig am fod newidiadau yn gallu digwydd i groen person pan maen nhw'n derbyn triniaeth am ganser. Bydd gwersi peintio aeliau ac amrannau coll hefyd.

Gwirfoddolwyr sydd wedi eu hyfforddi mewn harddwch sydd yn arwain y gweithdai, sydd yn digwydd unwaith bob chwe wythnos mewn gwesty ym Mhrestatyn.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r gweithdai yn bwrpasol yn cael eu cynnal mewn awyrgylch hamddenol i ffwrdd o'r ysbyty, meddai'r trefnwyr

Yn ôl Rebecca Morgan-Brennan, cydlynydd yr elusen ar gyfer gogledd Cymru, mae'r gwasanaeth yn gwneud gwahaniaeth i'r ffordd mae'r menywod yn teimlo amdanyn nhw'u hunain.

"Pan maen nhw'n colli eu gwallt mae'n gnoc go iawn i'w hyder. 'Dyw pob menyw ddim yn colli ei gwallt a dydyn nhw i gyd ddim yn cael yr un driniaeth," meddai.

"Ond does dim ots beth yw'r driniaeth, mae'n gwneud iddyn nhw deimlo cymaint yn well pan maen nhw yn dod i sesiwn fel hyn.

"Maen nhw'n cyfarfod pobl eraill sydd yn mynd trwy'r un peth ac maen nhw'n gwneud ffrindiau hefyd. Mae'n gwneud iddyn nhw deimlo yn fwy hyderus."

'Agoriad llygad'

Mae Pat Morris wedi cael triniaeth cemotherapi ar gyfer canser yr ofari.

"'Dach chi'n colli eich gwallt a phopeth ac mae o yn gwneud i chi deimlo yn reit isel. Mae'ch croen yn sych iawn ac yn arw ond chi'n ymdopi," meddai.

Dywedodd Ms Morris hefyd bod y gweithdy wedi bod yn "agoriad llygad".

Ymateb cadarnhaol y mae Sharon Jones, nyrs yn uned ganser Ysbyty Glan Clwyd, wedi ei glywed hefyd.

"Mae pawb sydd wedi bod arno fo yn deud bod o'n help mawr iddyn nhw gael sgwrsio efo cleifion eraill sydd yn mynd trwy'r un peth a chael tynnu nhw allan o'r tÅ· neu yn lle eu bod nhw yn yr ysbyty yn sgwrsio," meddai.

Ac mae'n falch bod y gwasanaeth ar gael yn y gogledd.

"Oedd yna alw amdano fo ac mae'n neis iawn cael rhoi gogledd Cymru ar y map. Mae yna alw mawr i bobl gael teimlo yn fwy positif i fynd trwy'r driniaeth a chael dŵad i ben y daith."