Â鶹ԼÅÄ

Ymgyrch i gynyddu profion canser cêg y groth

  • Cyhoeddwyd
smear test

Mae elusen ganser wedi dechrau ymgyrch i annog menywod yng Nghymru i gael prawf am ganser cêg y groth, yn dilyn cyhoeddi ffigyrau sy'n dangos bod y nifer sy'n cael prawf ar ei isa ers 10 mlynedd.

Mae yn dangos bod 204,100 o fenywod rhwng 25-64 oed wedi cael prawf yn 2015-16, sef 77.8%. Dyna'r ffigwr isaf ers 2006-07.

Mae elusen Jo's Cervical Cancer Trust wedi rhybuddio y bydd bywydau'n "cael eu colli" os na fydd y ffigwr yn codi.

Er hynny, mae'r nifer sy'n cael prawf yng Nghymru yn uwch nag unman arall yn y DU.

Ffynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhaglenni sgrinio yn arbed tua 5,000 o fywydau ym Mhrydain bob blwyddyn

Mae'r ffigyrau hefyd yn dweud bod 264,700 o fenywod wedi cael gwahoddiad am brawf yn 2015-16, sy'n golygu nad oedd 60,600 wedi cael y gwahoddiad.

Fe ddywed yr elusen bod hynny'n golygu bod un o bob pump o fenywod ddim yn cael y prawf allai achub eu bywydau.

Mae'r elusen felly'n galw ar y cyhoedd i'w cynorthwyo i godi ymwybyddiaeth o brofion canser y groth, a hynny ar ddechrau Wythnos Atal Canser y Groth ddydd Sul.

Dywedodd prif weithredwr elusen Jo's Cervical Cancer Trust, Robert Music: "Mae gennym un o'r rhaglenni sgrinio gorau yn y byd sydd yn achub tua 5,000 o fywydau bob blwyddyn.

Buddsoddiad

"Fodd bynnag, mewn cyfnod lle mae'r nifer sy'n mynd am brawf yng Nghymru ar ei isaf ers 10 mlynedd, rhaid i ni weld mwy o fuddsoddiad i dargedu ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth er mwyn annog menywod i dderbyn eu gwahoddiad am brawf.

"Mae sgrinio'r groth yn atal 70% o achosion canser y groth rhag datblygu, ac os na fyddwn yn blaenoriaethu hyn fe fydd mwy o fenywod yn wynebu'r gost corfforol a seicolegol o ganser y groth, ac fe fydd mwy o fywydau'n cael eu colli."

Dywedodd cyfarwyddwr rhaglen sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru, Dr Rosemary Fox, ei bod hi'n "galonogol" bod wyth o bob 10 menyw yn mynd i gael eu prawf sgrinio, ond ychwanegodd: "Hoffwn annog menywod sydd ag amheuon am sgrinio'r groth, neu sy'n gweld hynny'n anodd, i beidio anwybyddu eu gwahoddiad sgrinio."