Â鶹ԼÅÄ

Toll Pont Hafren yn 'anghyfreithlon' ar ôl 2019, medd AC

  • Cyhoeddwyd
Pont HafrenFfynhonnell y llun, Thinkstock

Byddai'n anghyfreithlon i weinidogion San Steffan godi tâl i deithio dros Bont Hafren ar ôl 2019, medd AC UKIP.

Dywedodd Mark Reckless bod y gyfraith yn dweud y gall y tollau barhau dim ond nes bod £80m wedi cael ei gasglu ar ôl i'r pontydd ddychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus.

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried herio Llywodraeth San Steffan yn y llys pe bydden nhw'n parhau i gynnal y tollau, meddai.

Dywedodd Llywodraeth y DU, sy'n bwriadu cwtogi'r tollau, ei bod yn "benderfynol o wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer dyfodol Prydain".

Gostwng i £3

Fe gyhoeddodd gweinidogion San Steffan gynlluniau'r wythnos diwethaf i leihau cost y tollau i £3 ar gyfer ceir a cherbydau bychan eraill.

Mae Llywodraeth Cymru a'r holl bleidiau eraill yn y Cynulliad o'r farn y dylai'r tollau gael eu diddymu.

Mae Llywodraeth y DU eisiau parhau i godi tâl am y pontydd i ariannu'r gwaith o'u cynnal a'u cadw, ac i ad-dalu dyled sy'n gysylltiedig â nhw, unwaith y byddan nhw'n dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus yn 2017/18.

Disgrifiad o’r llun,

"Byddai unrhyw gynllun codi tâl sy'n arwain at barhad toll yn anghyfreithlon," medd Mark Reckless

Dywedodd Mr Reckless, ar ôl i'r pontydd ddod yn ôl i'r sector gyhoeddus, bod Llywodraeth y DU yn gallu codi tâl i gasglu swm penodol yn unig - tua £80m.

Ychwanegodd bod hynny'n debygol o gael ei godi erbyn diwedd 2019.

"Oni bai bod Llywodraeth y DU yn pasio deddf seneddol newydd neu'n newid Deddf Pontydd Hafren, fy nadl i yw y byddai unrhyw gynllun codi tâl sy'n arwain at barhad toll yn anghyfreithlon," meddai.

"Yn y pen draw os dyw Llywodraeth y DU ddim yn parchu'r Cynulliad na'r ddadl gyfreithiol gryf sydd gennym ni, dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd i'r llys."

Yn siambr y Senedd yn gynharach yn yr wythnos, fe gwestiynodd Mr Reckless hefyd sut y gallai'r tollau barhau yn ei leoliad presennol - yng Nghymru - am fod rheolau am godi tâl ar ffyrdd yn fater sydd wedi'i ddatganoli.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ken Skates yn cwestiynu rhesymeg Llywodraeth y DU i barhau â'r doll

Mae Ysgrifennydd Economi Cymru, Ken Skates wedi cytuno i gwrdd â Mr Reckless i drafod cyfreithlondeb y sefyllfa.

Dywedodd wrth ACau ei fod "wedi synnu" gan resymeg Llywodraeth y DU i barhau â'r doll gan fod dyled Pont Humber yn Sir Efrog wedi cael ei ddileu.

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU: "Mae'r llywodraeth yn benderfynol o wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer dyfodol Prydain a bydd gostwng y tollau ar Bontydd Hafren yn torri ar gostau busnesau, gan helpu i roi hwb i swyddi a masnach yng Nghymru ac ar draws y de-orllewin."