Â鶹ԼÅÄ

Chwilio am Swyddog Datblygu'r Gymraeg ym Mhatagonia

  • Cyhoeddwyd
Cylch Cymraeg TrelewFfynhonnell y llun, Rhisiart Arwel

Mae Cynllun Cymraeg Patagonia yn chwilio am Swyddog Datblygu newydd i weithio yn y Wladfa.

Nod y swydd yw dysgu a datblygu'r Gymraeg yn ardaloedd y Gaiman a Threlew ym Mhatagonia.

Dywedodd Monitor Academaidd Cynllun Cymraeg Patagonia, Rhisiart Arwel: "Byddai disgwyl i'r person llwyddiannus ddechrau gweithio o fis Mawrth ymlaen.

"Chwilio am rywun sydd â phrofiad dysgu yn bennaf rydyn ni."

Mae 'na ddau swyddog wedi eu penodi'n barod eleni, felly dyma'r swydd olaf i gael ei hysbysebu eleni.

Mae Cynllun Cymraeg Patagonia, sy'n cael ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru, yn dathlu pen-blwydd yn 20 mlynedd eleni.

Ffynhonnell y llun, Rhisiart Arwel
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer y dysgwyr Cymraeg wedi mwy na dyblu ers sefydlu Cylch Cymraeg Patagonia yn 1997

Ychwanegodd Mr Arwel: "Mae'n gyfle da i rywun fod yn rhan o ddatblygiad a thwf y Gymraeg yn y Wladfa mewn blwyddyn hanesyddol yn hanes y Cynllun Cymraeg."

Mae ffigyrau yn dangos, ers sefydlu'r Cynllun Cymraeg ym Mhatagonia, bod nifer y dysgwyr Cymraeg wedi mwy na dyblu mewn niferoedd.

"Nôl yn 1997 pan sefydlwyd y Cylch roedd 'na 573 o ddysgwyr. Mae'r ffigyrau ar gyfer 2016 yn dangos bod 1,270 o bobl wedi dysgu Cymraeg," meddai.

Er mwyn ymdopi gyda'r brwdfrydedd o ran dysgu Cymraeg yn y Wladfa, mae 'na bellach dair ysgol gynradd ddwyieithog ym Mhatagonia.

Yn ôl Mr Arwel, mae hyn yn "brawf fod 'na ddiddordeb yn yr iaith Gymraeg a'r diwylliant".

"Bydd y person llwyddiannus o ran y swydd yn cael profi rhywbeth unigryw iawn. Gallai'r person fyw bywyd Cymreig y tu allan i Gymru a chael cyfle i ddatblygu'r iaith dramor," ychwanegodd.