Â鶹ԼÅÄ

Cwis: Ble mae'r cerflun?

  • Cyhoeddwyd

Mae'r diffyg cerfluniau arwresau Cymreig wedi bod yn bwnc trafod ar raglen Aled Hughes ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru yn ystod yr wythnos.

Ond er gwaethaf hyn, mewn llawer o drefi neu bentrefi Cymru, mae enwogion (gwrywaidd) yr ardal yn cael eu dathlu gyda cherfluniau amlwg... ond pa mor amlwg?

Ydych chi'n gwybod ble mae'r rhain? (Rhowch farc ychwanegol i'ch hun os fyddwch chi'n gwybod cerfluniau o bwy ydyn nhw hefyd.)

Ffynhonnell y llun, Ian West

Roedd arfer sefyll yng nghysgod y Pafiliwn, ond ym mhle?

Ffynhonnell y llun, Colin Smith/Geograph

Mae rhai'n credu fod jôcs y gŵr yma'n gawslyd, ond mae llawer yn anghytuno. Ond ble mae e?

Ble mae cerflun y bardd hwn? Mae'n drwm!

Ydych chi wedi dod ar draws y cerflun yma? Mae'n eithaf pell o'i fan geni, ond mewn man eithaf amlwg i lawer.

Pa bris am y ceflun yma? Os ydych chi'n gwybod lle mae e, mae digon o arian gerllaw!

Ffynhonnell y llun, Libby Norman

Cerflun arall tu fas i gastell, a roedd hwn yn dipyn o ddewin hefyd. Ond ble mae e?

Ffynhonnell y llun, Jaggery

Ydy'r cerflun yma dan y wenallt?

Ffynhonnell y llun, Eirian Evans

Mae gan hwn siwt neis, ond dyna fe, 'dyw hynny ond yn naturiol, ag yntau mor fedrus â'i siswrn. Ond ble mae e?