Ateb y Galw: Llwybr Llaethog

John Griffiths a Kevs Ford o Llwybr Llaethog sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddyn nhw gael eu henwebu gan Bedwyr Williams yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

John: Ro'n i'n byw mewn tŷ heb ddŵr yn ardal Llanfrothen tan o'n i'n bump oed. Dwi'n cofio cerdded lawr at yr afon gyda Mam i lenwi poteli efo dŵr.

Kevs: Mynd i nôl llefrith poeth i fy mrawd iau mewn B&B yn Bournemouth pan o'n i tua tair oed.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

John: Ar ôl darganfod Punk Rock yn 1977, Siouxsie Sioux oedd pin-up fi. A Helen Mirren.

Kevs: Katy Manning (Jo Grant o'r rhaglen Doctor Who yn 1971).

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

John: Mae'n siŵr fod hwnna wedi cael ei gladdu'n ddwfn rhywle yn fy isymwybod.

Kevs: Canu Calon Lân ar ben fy hun o flaen y dosbarth, dydd cyntaf yr ysgol uwchradd.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

John: Dwi'n crio'n eitha aml, ond y tro diwetha oedd tra'n gwrando i'r tiwn Mynwent yr eglwys gan Llio Rhydderch.

Kevs: Y ffilm drist olaf i mi weld, dwi'm yn cofio pa un.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

John: Dim o gwbl!

Kevs: Oes.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

John: Castell y Bere, mae'r lle'n jyst yn teimlo'n hudolus, gyda'r cysylltiad uniongyrchol efo gorffennol y genedl.

Kevs: Yr Afon Cynfal ger Ffestiniog - roedd o'r lle gorau i chwarae pan o'n i'n ifanc.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

John: Heno, gobeithio…

Kevs: Chwarae gig yn y Monkey Bar yn Abertawe. Lle anhygoel.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

John: Mab, brawd, tad.

Kevs: Sosialaidd, blin, distaw.

Beth yw dy hoff lyfr?

John: Cymraeg: Lladd Duw - Dewi Prysor. Saesneg: At swim two birds - Flann O'Brien.

Kevs:The Ragged Trousered Philanthropists gan Robert Tressell.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

John: Fy mam Isabel Emmett. Dwi'n methu hi bob dydd. Wastad efo storis da, a barn doeth yn gyffredinol.

Kevs: John Lennon, a chael sgwrs am sgwennu caneuon a sut i wisgo bulletproof vest.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

John:Black Mirror, pennod 'Shut up & dance'. Ardderchog!

Kevs:Star Wars, Rogue One.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

John: Bore gyda'r teulu, pnawn gyda fy nghariad.

Kevs: Cael potel o win coch a chwarae fy ngitar ar ben mynydd a sbio ar y machlud.

Disgrifiad o'r llun, Llwybr Llaethog - mae'r arbrofi yn parhau

Dy hoff albwm?

John: Cwestiwn amhosib i'w ateb, ond dyma dri: Keith Hudson - Flesh of my skin, blood of my blood. The Clash - The Clash [albwm 1af]. Public Enemy - Fear of a black planet.

Kevs: Pick a Dub gan Keith Hudson.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - be fyddai'r dewis?

John: Prif gwrs - bwyd y môr bob tro.

Kevs: Prif gwrs, Aloo Papri Chat o'r Vegetarian Food Studio yng Nghaerdydd.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

John: Carys Eleri.

Kevs: Louis Armstrong.

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Carys Eleri