麻豆约拍

Chwilio am berthnasau c么r o'r Rhyfel Byd Cyntaf

  • Cyhoeddwyd
SommeFfynhonnell y llun, IWM
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd aelodau C么r 17eg Bataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig eu lladd yn y Rhyfel Mawr

Mae swyddogion yr Eisteddfod Genedlaethol yn chwilio am deuluoedd aelodau o g么r y cafodd pob un o'r aelodau eu lladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Nod yr Eisteddfod yw cynnal gweithgarwch er mwyn cofio am eu haberth yn ystod yr Eisteddfod ym M么n eleni.

Daeth C么r 17eg Bataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig yn ail yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1915 ond erbyn Eisteddfod Penbedw - Eisteddfod y Gadair Ddu - yn 1917 roedd pob un aelod ac eithrio'r arweinydd wedi eu lladd.

Yn Eisteddfod Penbedw cynhaliwyd seremoni arbennig i anrhydeddu arweinydd y c么r, yr Is-gorporal Samuel Evans, gafodd ei glwyfo yn yr ymladd.

Mae Eisteddfod Penbedw yn cael ei chofio fel Eisteddfod y Gadair Du am mai Hedd Wyn enillodd y gystadleuaeth, ond iddo gael ei ladd cyn iddo gael ei anrhydeddu.

Fe gafodd seremoni'r Gadair Ddu ei chynnal oriau'n unig ar 么l i'r Eisteddfod anrhydeddu'r Is-gorporal Samuel Evans, Rhosllannerchrugog, ar lwyfan y Pafiliwn.

Ganrif yn ddiweddarach mae swyddogion yr Eisteddfod yn awyddus i glywed gan deuluoedd C么r Meibion yr 17eg Bataliwn.

Dywedodd llefarydd: "Byddai amryw o'r dynion wedi'u recriwtio yn ardal Blaenau Ffestiniog, Wrecsam a Llandudno, ac rydym yn hyderus bod gan nifer ohonynt deuluoedd sy'n dal i fyw yn lleol ar draws gogledd Cymru.

"Y bwriad yw cyhoeddi mwy am y c么r yn agosach at yr Eisteddfod, ac i gasglu enwau'r aelodau er mwyn iddyn nhw gael eu cofio yn yr Eisteddfod ym M么n o 4-12 Awst."

Dylai unrhyw un a gwybodaeth gysylltu 芒'r Eisteddodd ar 0845 4090 400.