Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Bedwyr Williams

  • Cyhoeddwyd
bedwyr

Y artist Bedwyr Williams sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan .

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Cael fy nal i fyny yn yr awyr ar gefn beic bach plastig gan Dad.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Pan o'n i'n fach fe ddaeth myfyrwraig exchange o Sweden i aros. Roedd hi wedi dod â roller skates drud efo hi ag roedd hi'n zoomio fyny ag i lawr y stryd. Yn Hen Golwyn yr 80au roedd hi yn eitha' exotic.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Rhwygo sêt fy nhrowsys tra'n delifro mirrors yn South Kensington.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

F*** off!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Rhegi

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Llechwedd ger Conwy. Atgofion melys plentyndod.

Disgrifiad o’r llun,

Rhan o arddangosfa gwaith Bedwyr Williams yn Venice Biennale, 2013. Roedd seryddiaeth amatur yn ganolbwynt i arddangosfa Bedwyr yn Venice

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Yfed potel cyfa' o Sambuca yng Ngŵyl Rhif Chwech a rhuo ar bobl posh Saesneg a phobl Gymraeg clique-y.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Artist tal blin

Beth yw dy hoff lyfr?

Flat Stanley

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Mike Kelley - fy hoff artist

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Jason Bourne - sh*t

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mynd â taxi drivers Caerdydd i gyd mewn bus massive heb MOT a wastio eu hamser yn chwilio am ryw stryd neu'i gilydd.

Disgrifiad o’r llun,

Bedwyr yn perfformio yn 2013

Dy hoff albwm?

I Am Kurious Oranj - The Fall

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - be fyddai'r dewis?

Cyntaf - prawn cocktail. Mae prawns yn headf*** ac yn flasus.

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

John a Kev o Llwybr Llaethog