Ailenwi stryd yn Yr Almaen i nodi dioddefaint teulu

Disgrifiad o'r fideo, Heini Gruffudd yn sôn am hanes ei deulu - a'r stryd fydd yn cael ei hailenwi

Bydd stryd yn Yr Almaen yn cael ei hailenwi ar ôl teulu wnaeth ddiodde' o dan y Natsïaid - a hynny wedi i lyfr Cymraeg ddod â'u stori i'r amlwg.

Cafodd hanes y teulu Bosse ei gofnodi gan Heini Gruffudd yn ei lyfr Yr Erlid, enillydd gwobr Llyfr y Flwyddyn 2013.

Roedd mam Heini Gruffudd, Kate Bosse-Griffiths, o dras Iddewig, a daeth i Gymru yn ystod cyfnod y Trydydd Reich.

Bossestrasse fydd enw'r stryd yn nhre' Wittenberg yn dilyn seremoni yno ddydd Gwener.

Disgrifiad o'r llun, Kaethe Bosse, mam-gu Heini Gruffudd, gyda'i merched

Roedd y teulu'n adnabyddus, gyda Paul Bosse - tad-cu Heini Gruffudd - yn feddyg blaenllaw yn ysbyty'r dref.

Ond gan fod ei wraig, Kaethe, o dras Iddewig, cawson nhw eu targedu gan lywodraeth Adolf Hitler.

Fe gollodd Paul Bosse ei waith, a bu farw Kaethe Bosse yng ngwersyll Ravensbrück.

Mae'r seremoni i ailenwi'r stryd ble'r oedd y teulu'n byw - a ble bu Paul Bosse'n rhedeg clinig preifat wedi colli ei swydd - yn digwydd ar 16 Rhagfyr, sef yr union ddyddiad y bu Kaethe Bosse farw.

Disgrifiad o'r llun, Gwersyll Ravensbrück, ble fuodd Kaethe Bosse farw ar 16 Rhagfyr 1944

Wrth siarad gyda Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw, dywedodd Heini Gruffudd bod y digwyddiad yn gwneud "rhyw gymaint bach o iawn" am yr hyn ddigwyddodd i'r teulu.

"Mae'r stori sydd gyda ni, mewn gwirionedd, ond yn un stori o ddegau o filoedd yn yr Almaen, ac o chwe miliwn ledled Ewrop a Rwsia.

"Mae'r Almaen heddiw - y rhan fwyaf, o leiaf - yn dal i drio gwneud iawn am yr holl erchylltra ddigwyddodd.

"Mae'r seremoni fach yma, mewn ffordd, yn rhywbeth bach i'r un cyfeiriad."

'Cymodi'

Un o'r ffigyrau allweddol tu ôl i'r seremoni yw'r Athro Ddoctor Hans-Jürgen Grabbe, ddaeth ar draws Yr Erlid pan ddangosodd rhywun o Gyngor Tref Wittenberg y llyfr iddo.

Ers hynny, mae e wedi dod yn ffrind i'r teulu ac yn gweithio ar addasiad Almaeneg o'r llyfr.

"Dylai Paul Bosse gael ei anrhydeddu am ei gyfraniad i Wittenberg, ac ar ben hynny cafodd ei wraig ei lladd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Teulu Bosse

Disgrifiad o'r llun, Am iddo briodi Kaethe, oedd o dras Iddewig, collodd Paul Bosse ei waith ym mhrif ysbyty Wittenberg a bu'n rhaid iddo ddechrau ei glinig ei hun

"Cefais y syniad o ailenwi'r stryd, nid yn unig i gofio'r doctor ond hefyd ei wraig.

"Mae'n ffordd o wneud iawn [am beth ddigwyddodd]. Ond mae hefyd yn arwydd pwysig o gymodi ar ran Heini a'i deulu... maen nhw'n cydnabod sut mae Wittenberg wedi newid."

Mae disgwyl i addasiad Almaeneg Hans-Jürgen Grabbe o Yr Erlid ymddangos yn gynnar yn 2017.