'Angen ailystyried Caernarfon' fel pencadlys S4C

Ffynhonnell y llun, PCDDS

Mae aelod o'r Cynulliad wedi dweud y dylid ystyried symud pencadlys newydd S4C i Gaernarfon.

Ddydd Iau fe ddaeth yn amlwg fod y brifysgol sydd y tu ôl i ddatblygiad adeilad yng Nghaerfyrddin lle mae pencadlys newydd y sianel i fod wedi gofyn am filiynau o bunnoedd yn ychwanegol o arian cyhoeddus ar gyfer y cynllun.

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sy'n datblygu canolfan Yr Egin, ac mae'r Â鶹ԼÅÄ ar ddeall bod cais am grant wedi ei wneud i Lywodraeth Cymru.

Dywedodd AC Arfon, Sian Gwenllian mewn datganiad nad oedd cais Caerfyrddin yn cyd-fynd â'r disgrifiad bod angen i'r cynllun fod yn un "cost-niwtral".

Dywedodd llefarydd ar ran S4C bod y darlledwr wedi cael sicrwydd gan y brifysgol y "bydd yr arian ar gael i wireddu'r cynllun".

'Angen ail-ystyried'

Ddydd Iau, dywedodd Prifysgol Y Drindod Dewi Sant bod gweinidogion yn ystyried cais fel rhan o raglen lywodraethu Symud Cymru Ymlaen.

Ond dywedodd Ms Gwenllian ei bod nawr yn glir bod angen "cyfraniad ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru" i gwblhau'r cynllun yng Nghaerfyrddin.

"Pan benderfynodd Awdurdod S4C ym Mawrth 2014 i adleoli i Gaerfyrddin, roeddwn ar ddeall fod angen i'r cynllun fod yn un cost-niwtral. Ymddengys nad yw cais Caerfyrddin yn ffitio'r disgrifiad hwnnw bellach.

"Fodd bynnag, mae cais Cyngor Gwynedd ar gyfer symud pencadlys S4C i Gaernarfon yn parhau i fod yn opsiwn dilys sydd angen ei drafod yn sgil yr amgylchiadau newydd sydd wedi dod i'r amlwg.

"Credaf felly fod angen i Awdurdod S4C ail-ystyried."

Ychwanegodd bod cais gwreiddiol Caernarfon "yn un cryf iawn", ac y byddai "lleoli'r pencadlys yma yn hwb sylweddol i'r economi a'r iaith Gymraeg".

Sicrwydd

Dywedodd llefarydd ar ran S4C: "Tenant fydd S4C yng Nghanolfan S4C yr Egin, tenant pwysig, tenant angor, ond Prifysgol Cymru Drindod Dewi Sant sydd yn gyfrifol am ariannu ac adeiladu'r ganolfan.

"Mae S4C wedi cael sicrwydd gan PCDDS o gychwyn y broses y bydd yr arian ar gael i wireddu'r cynllun adleoli cynhyrfus hwn, ar y sail ei fod yn gost niwtral i S4C.

"Rydym yn hyderus fod y sicrwydd hwn yn dal i fodoli."

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Dros y ddwy flynedd diwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal amryw o drafodaethau gyda S4C a phartneriaid eraill sydd ynghlwm a symud y prif adeilad i Gaerfyrddin ynghyd a datblygiadau ehangach ar y safle. Mae'r trafodaethau hynny yn parhau i fynd yn eu blaen.

"Byddai unrhyw gymorth gan Lywodraeth Cymru ond yn cael ei ystyried gydag achos busnes manwl sydd yn egluro budd economaidd, diwylliannol ac ieithyddol y datblygiad ynghyd a dangos pam fod angen ymyrraeth y sector gyhoeddus er mwyn cyflawni hynny."