Disgwyl i Gyngor Gwynedd godi trethi ar ail gartrefi

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Mae pentre' glan môr Borth y Gest ger Porthmadog yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr

Mae disgwyl i Gyngor Gwynedd gymeradwyo cynnydd yn nhreth y cyngor ar gyfer ail gartrefi.

Yn ôl y cynlluniau, fe fyddai bil treth cyngor perchnogion ail dai yn cynyddu o 50% o Ebrill 2018.

Mae bron i 5,000 o ail gartrefi yng Ngwynedd - y nifer fwyaf o holl siroedd Cymru.

Eisoes mae nifer o awdurdodau lleol wedi cyhoeddi y bydden nhw'n manteisio ar ddeddfwriaeth newydd ac yn cynyddu'r gost o gael tai haf.

Unedau hunan-ddarpar

Roedd 'na ychydig o oedi yn y broses yng Ngwynedd wedi i bwyllgor godi pryderon y byddai perchnogion yn medru osgoi'r dreth drwy gofrestru eu heiddo fel unedau hunan-ddarpar, sy'n talu trethi busnes.

yn dweud bod "gwir fygythiad" o hynny ddigwydd mewn rhai achosion, ond mae'r ddogfen yn dod i'r casgliad y byddai'r cyngor yn dal ar eu hennill yn ariannol.

Mae cynlluniau Gwynedd yn dilyn camau gan awdurdodau yn Sir Benfro a Phowys, sydd hefyd yn bwriadu cynyddu'r dreth o 50% o fis Ebrill 2018.

Cynnydd o 25% sydd ar y gweill ar Ynys Môn ac yng Ngheredigion, tra bod Conwy wedi cyhoeddi cynnydd o 100% - y lefel uchaf bosib.

Bydd cabinet Cyngor Gwynedd yn cyfarfod i drafod y cynlluniau ar 22 Tachwedd.