Â鶹ԼÅÄ

Bysiau rhwng Aberystwyth a Chaerdydd i ailddechrau

  • Cyhoeddwyd
TrawsCymru

Bydd y gwasanaeth bws rhwng Aberystwyth a Chaerdydd yn ailddechrau ddiwedd y mis, wedi i wasanaeth TrawsCymru gamu i'r adwy i'w redeg.

Fe fydd gwasanaeth newydd T1C yn cymryd lle'r gwasanaeth 701 blaenorol oedd yn cael ei redeg gan gwmni Bysiau Lewis, cyn iddo fynd i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Awst.

Bydd yn rhedeg ochr yn ochr â'r gwasanaeth bws T1, sy'n rhedeg rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin bob awr ac yn cysylltu â'r rheilffordd yng Nghaerfyrddin.

Fe fydd y gwasanaeth yn cael ei adolygu ar ôl chwe mis.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a Seilwaith, Ken Skates ei fod yn falch bod TrawsCymru wedi gallu "cymryd cyfrifoldeb dros y gwasanaeth pwysig hwn".

"Wedi i Fysiau Lewis gau yn annisgwyl, rydym wedi mynd ati'n gyflym i weithio gyda'r awdurdod lleol ac eraill i sicrhau bod gwasanaethau allweddol yn parhau, gan sicrhau nad oedd y broses yn tarfu'n ormodol ar bobl," meddai.