Camdrin plant ar-lein: Maint y broblem 'yn syfrdanol'

Ffynhonnell y llun, PA

Mae pennaeth ymgyrch heddlu sydd yn taclo troseddau camdrin plant ar-lein yn dweud bod maint y broblem yng Nghymru "yn syfrdanol ac yn drist".

Ddydd Llun fe fydd uned Operation Net Safe, sydd eisoes wedi dechrau ymchwilio i 19 o achosion, yn cael ei lansio gan y pedwar llu heddlu.

Rhybuddiodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Jon Drake y dylai pobl oedd yn ymwneud â throseddau camdrin "feddwl yn galed" am beth roedden nhw'n ei wneud.

Mae "cannoedd os nad miloedd" o bobl yn troseddu ar-lein bob dydd yng Nghymru, meddai.

Fe fydd timau heddlu a fforensig penodedig yn mynd ati i chwilio am y rhai sydd yn defnyddio'r we i edrych a rhannu delweddau o'r fath.

Gan ddefnyddio'r technegau digidol diweddaraf, mae modd iddynt adnabod ble yng Nghymru y mae'r delweddau hynny o blant yn cael eu gweld.

Maen nhw wedyn yn gallu gwneud cais i'r llysoedd er mwyn cael gwarant chwilio ac arestio'r sawl sydd yn gyfrifol.

'Nunlle i guddio'

Mae chwech o bobl eisoes wedi cael eu harestio wrth ddefnyddio'r technegau newydd, ac mae ymholiadau eraill yn parhau.

"Y gwir yw nad oes unrhyw le i guddio," meddai Jon Drake, sydd yn arwain yr ymgyrch.

"Yn aml mae troseddwyr yn gallu twyllo'u hunain i feddwl nad oes dioddefwyr, gan bod y lluniau yn bodoli ar-lein eisoes a bod ganddyn nhw ddim cyswllt uniongyrchol â'r plant a phobl ifanc dan sylw.

"Ond fe gafodd y plant hynny eu hecsploetio a'u camdrin er mwyn creu'r delweddau hynny. Mae camdrin plant yn rhywiol yn drosedd. Ac mae bod â lluniau o'r camdrin yna yn eich meddiant yn drosedd hefyd."

Disgrifiad o'r llun, Y Dirprwy Brif Gwnstabl Jon Drake o Heddlu De Cymru sydd yn arwain yr ymgyrch

Fel rhan o'r cynllun, bydd cymorth a chefnogaeth yn cael ei gynnig i swyddogion heddlu sydd yn dod ar draws delweddau annifyr fel rhan o'u gwaith.

Mae'r heddlu hefyd yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Lucy Faithfull, sydd yn rhedeg ymgyrch i geisio annog troseddwyr a'r rheiny allai droseddu, neu deuluoedd sydd â phryderon, i chwilio am help.

"Mae'r ymddygiad yma yn erbyn y gyfraith, os ydi pobl yn sylwi hynny ai peidio," meddai Donald Findlater, ymgynghorydd diogelu gyda'r elusen.

"Fe fydd llawer yn cyrraedd y deunydd yma ar ôl misoedd neu flynyddoedd o edrych ar bornograffi oedolion sydd yn gyfreithiol.

"Fe fydd eraill yn bedoffiliaid. Pwy bynnag ydyn nhw, rydw i'n eu hannog nhw i roi'r gorau i'w gweithredoedd anghyfreithlon a chwilio am y cymorth sydd ei angen arnyn nhw er mwyn rhoi'r gorau iddi."