Â鶹ԼÅÄ

Cynllun i gadw Llyfrgell Y Gelli Gandryll ar agor

  • Cyhoeddwyd
Llyfrgell Y Gelli

Mae trigolion Y Gelli Gandryll yn ystyried cynllun i gadw drysau eu llyfrgell ar agor.

Mae grŵp cymunedol wedi'i ffurfio i wrthwynebu cynlluniau Cyngor Powys, allai orfodi'r llyfrgell i gau.

Bydd rhaid i Gyngor Powys arbed £250,000 o'i gyllideb llyfrgelloedd erbyn Ebrill 2019.

Er mwyn osgoi cau'r adeilad yn Y Gelli bydd angen i bobl leol gyfrannu £18,000 y flwyddyn, sef hanner y gost o gynnal y llyfrgell. Fe fydd y cyngor sir wedyn yn talu'r hanner arall.

'Ddim yn bosib'

Dywedodd maer Y Gelli, Fiona Howard bod cyngor tref Y Gelli wedi bod yn ystyried cynlluniau i gadw'r llyfrgell ar agor ers rhai misoedd.

"Rydyn ni wedi derbyn rhybudd gan y cyngor sir bod rhaid i ni greu cynllun i gadw'r llyfrgell ar agor," meddai.

"Maen nhw'n bwriadu cau'r llyfrgell, ac yn barod i ddechrau'r gwaith yna ar 31 Hydref.

"Ym mis Mehefin daeth cadarnhad y bydd rhaid i ni ffurfio cynlluniau i gadw'r llyfrgell ar agor.

"Dywedodd y cyngor sir ei bod yn barod i ariannu 50% o'r fenter, ond byddai hynny yn golygu bod rhaid i'r cyngor tref, mewn tref gyda 1,500 o bobl, godi £18,000 bob blwyddyn. Dydy hynny ddim yn bosib."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Fiona Howard yn dweud ei bod yn ceisio dod o hyd i gynllun i achub y llyfrgell

Mae grŵp o bobl leol nawr yn gweithio gyda'r cyngor tref i gyflwyno cynllun i Gyngor Powys i gadw'r llyfrgell ar agor.

Ar draws Powys mae 11 o lyfrgelloedd lleol dan fygythiad.

Dywedodd yr aelod o gabinet Powys sy'n gyfrifol am lyfrgelloedd, Graham Brown mai'r cam olaf fyddai cau unrhyw un o'r llyfrgelloedd.

"Fel cyngor mae'n rhaid i ni ddod o hyd i bron i £30m o arbedion dros y tair blynedd nesaf," meddai. "Mae'r gwasanaeth llyfrgell ei hun yn gwneud £250,000 o arbedion.

"Rydyn ni wedi bod yn edrych ar y gwasanaeth, ac yn ceisio gweithio gyda chymunedau er mwyn cyflawni'r arbedion hyn.

"Nid dim ond yn Y Gelli Gandryll, ond ym mhob man ble mae'r llyfrgelloedd dan fygythiad."

Dywedodd Mr Brown bod y cyngor yn wynebu penderfyniadau anodd ynghylch sut i wario ei chyllideb.

"Mae toriadau yn effeithio ar ein holl wasanaethau," meddai.

"Dwi wedi bod mewn cyfarfod cyhoeddus dros y dyddiau diwethaf yn trafod gwasanaethau ar gyfer yr henoed, ac roedd dros 100 o bobl yno oedd yn drist iawn y gallent golli canolfan cymdeithasol.

"Mae'n effeithio ar bob gwasanaeth, felly ry'n ni'n trio gweithio gyda chymunedau, cynghorau tref, sefydliadau gwirfoddol a busnesau lleol i weld a allwn ni gyflawni'r arbedion drwy gydweithio gyda chyrff eraill.

"Y peth olaf ry'n ni am ei wneud ydi cau llyfrgelloedd."

Gwariant yn gostwng

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLLC) yn dweud bod 20 o lyfrgelloedd wedi cau'n barhaol ledled Cymru ers 2011.

Mae 20 o lyfrgelloedd eraill bellach wedi ail-agor dan reolaeth y gymuned.

Ychwanegon nhw fod y gwariant ar lyfrgelloedd wedi gostwng 32% ers 2009.

Mewn datganiad dywedodd CLLC: "Er gwaethaf yr heriau cyllidebol sy'n wynebu awdurdodau lleol, mae holl gynghorau Cymru yn parhau i ymrwymo i weithio gyda chymunedau lleol i ddarparu gwasanaethau llyfrgell gynhwysfawr ac effeithiol sy'n addas ar gyfer anghenion a disgwyliadau defnyddwyr y gwasanaeth ym mhob cwr o Gymru."