Â鶹ԼÅÄ

"Blwyddyn boncyrs!"

  • Cyhoeddwyd

Profiad o fabwysiadu dau o blant wnaeth ysgogi Alun Saunders i sgwennu'r ddrama ddwyieithog A Good Clean Heart, gafodd ei llwyfanu yn ddiweddar mewn theatrau ar draws Cymru.

Ffynhonnell y llun, Alun Saunders

Mae'r ddrama yn trafod y pwnc o hunaniaeth a mabwysiadu, a sefyllfa dau frawd sydd wedi eu dwyn fyny ar wahân mewn dwy iaith wahanol, wedi iddyn nhw gael eu magu gan rieni gwahanol.

Bu Alun Saunders yn siarad â Cymru Fyw am ei brofiad ef a'i bartner Chris o fabwysiadu dau o blant, a sut y dylanwadodd hynny arno wrth ysgrifennu'r ddrama:

Gwahanu

Mae bron i dair blynedd ers i fi ddechrau sgwennu'r ddrama. O'n i'n ymateb i brîff lle roedd cwmni drama yn chwilio am ddrama fer gydag un cymeriad o Gymru ac un o Loegr. Gan bo' fi a'm mhartner Chris wedi dechre ar y broses o fabwysiadu yn y cyfnod hynny, fe ddaeth e i'n feddwl i'n eitha' buan i gael dau gymeriad fydde'n frodyr ond oedd wedi cael eu gwahanu wrth gael eu mabwysiadu.

Hefyd o ran hunaniaeth, rwy'n nabod lot o bobl sy' wedi symud i Gymru, ac yn teimlo eu bod nhw'n adoped Welsh people, yn cenfigennu, yn joio meddwl amdanyn nhw eu hunain fel Cymry, ond dwi ddim yn nabod unrhywun o Gymru sy' wedi symud i Loegr, sy'n teimlo fel Sais. Odd hwnna'n rhyw fath o ddechreubwynt, sut ma rhywun yn teimlo am eu cenedl, ac o ble maen nhw'n dod.

Ffynhonnell y llun, Neontopia
Disgrifiad o’r llun,

Actorion 'A Good Clean Heart' - James Ifan ac Oliver Wellington

Wrth feddwl am siblings, oedd e'n ddiddorol i feddwl sut fydde eu stori nhw [ei blant] wedi bod yn wahanol, petai nhw wedi cael eu gwahanu.

Pan wnaethon ni ymholiad gyda asiantaeth fabwysiadu, o'n ni'n cwestiynu shwt fydde nhw'n delio gyda cwpl hoyw, ond o'r diwrnod cyntaf rydyn ni wedi teimlo croeso mawr a brwdfrydedd gyda ni fel pobl, nid fel cwpl hoyw, sydd â diddordeb mewn mabwysiadu.

'Therapi pob pythefnos'

Roedd y broses o'n asesu ni fel mabwysiadwyr wedi para am tua naw mis ac fe ddaethon ni i nabod y gweithiwr cymdeithasol yn dda. Roedd e fel therapi bob pythefnos.

Roedd rhaid bod yn drylwyr ac oedd angen profi ein bod ni'n bobl call a'n bod ni wedi meddwl am ein hunaniaeth ni ein hunain, a'n perthynas ni gyda'n teuluoedd a'n bod ni'n bobl agored oedd yn barod i fod yn rieni agored.

Roedd yn broses positif ac adeiladol ac roedd pawb yn deg iawn. Wedyn oedd yn rhaid iddyn nhw ein matcho ni i blant oedd yn aros am deulu, ac oedd hwnna'n eitha anodd ac yn emosiynol.

Beth ddysgon ni oedd bod rhaid bod yn realistig iawn gyda beth ydych chi fel pobl yn gallu ymdopi gyda, beth chi'n teimlo'n barod i gymryd mlaen. Wnaethon ni deimlo ein bod ni'n barod i gymryd dau o blant.

Mae'r plant gyda ni ers tua blwyddyn a mae 'di bod yn flwyddyn boncyrs! Yn y ffordd gore posib, mae wedi trawsnewid ein bywydau ni a'i droi e ben i waered! Beth wnes i da'n amser i cyn bod yn dad?!