'Balch' bod gofal iechyd traws ar ei ffordd i Gymru

Mae teulu o Fro Morgannwg wedi croesawu ymrwymiad yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru i ddatblygu clinigau hunaniaeth rywedd.

Ddydd Mawrth, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford fanylion gwariant y llywodraeth yn 2017-18, oedd yn cynnwys cynnydd o £240m mewn gwariant ar y Gwasanaeth Iechyd.

O ganlyniad i gytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru, mae'r gyllideb yn cynnwys ymrwymiad o £1m tuag at sefydlu darpariaeth anhwylderau bwyta a hunaniaeth rywedd yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae pobl trawsryweddol yng Nghymru sy'n cael diagnosis yn gorfod teithio i glinigau arbenigol yn Llundain.

Un sydd wedi gorfod gwneud y daith i Lundain droeon yw Joe o Fro Morgannwg, a bu'n dweud wrth Cymru Fyw am ei brofiadau.

Sylweddoli

Wedi ei eni'n ferch, sylweddolodd Joe yn ei arddegau cynnar fod rhywbeth yn wahanol: "Pan o'n i yn tua 13, nes i ddechrau sylweddoli mod i'n berson traws.

"O'dd e'n anodd iawn.

"Fel plentyn, doedd gen i ddim beth dwi'n gwybod nawr. Doedd yna ddim o'r un fath o ymwybyddiaeth o gwmpas pethe traws, a dwi'n meddwl falle, os byse 'na, y bysen i wedi dechrau dweud wrth pobl lot yn gynt, ond sa i'n gwybod.

"Sai'n cofio pryd nes i sylweddoli bod rhaid mynd yr holl ffordd i Llundain, ond mae e'n ffactor mawr yn trio dewis beth wyt ti eisiau gwneud."

Heriol

Yn ôl Joe, mae gwneud y daith i Lundain yn gallu bod yn heriol: "Yn gyntaf mae angen cael diwrnod off ysgol neu goleg, ac mae angen i rieni cael diwrnod off y gwaith.

"Mae'n cymryd amser hir i gyrraedd yna, mae'n gostus, a weithiau hyd yn oed am apwyntiad sydd falle ddim ond i gymryd gwaed neu bwysedd, neu rywbeth fel yna."

Wedi rhai blynyddoedd digon anodd, mae Joe wedi dod o hyd i gymorth a chefnogaeth: "Dwi'n ffeindio mwy o grwpiau a sefydliadau sydd ar gyfer cymorth i bobl traws, yn enwedig pobl ifanc, ond does dal ddim byd yna ar gyfer iechyd pobl traws yng Nghymru."

Disgrifiad o'r fideo, Mae gan Joe gyngor i eraill sydd yn yr un sefyllfa ag e

"Mae pobl traws yn bodoli o bob oedran.

"Dwi'n meddwl fod pobl traws ar draws y byd i gyd jyst wedi dod at ein gilydd a 'di dechre dweud bod angen mwy. Mae dal ffordd hir i fynd, dy ni'n clywed lot o newyddion da ond hefyd newyddion drwg. Plant yn cael eu cicio mas o ysgolion yn America, pobl yn cael eu lladd..."

Erbyn hyn, mae Joe yn weithgar gyda grŵp Traws*Newid, ac wedi bod yn lobïo gwleidyddion: "Dwi'n falch iawn fod y Llywodraeth wedi sylweddoli pa mor bwysig yw e i gael triniaeth iechyd ar gyfer pobl traws yng Nghymru.

"Fel rhan o grŵp Trans*Form, aethon ni i weld Mark Drakeford, ac ro'n ni'n dweud wrtho fe pa mor bwysig yw gofal iechyd i bobl traws yn y lle cyntaf a hefyd pa mor bwysig yw e i'w gael e'n agosach i adref ac nid angen mynd yr holl ffordd i Lundain.

Disgrifiad o'r llun, Mae mam Joe, Iola'n dweud ei bod yn hollbwysig fod gwasanaethau trawsrywedd ar gael i blant yn ogystal ag oedolion

Dywedodd mam Joe, Iola bod yr ymrwymiad yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn galonogol iawn: "Mae hwn yn ddatganiad dwi'n croesawu yn fawr iawn, mae grwpiau ac unigolion yng Nghymru wedi brwydro yn hir am y math yma o wasanaeth.

"Mi oedd y gwasanaethau yma yn gwneud eu gorau, ond dwi'n teimlo nad oedd 'na ddigon o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r materion hunaniaeth rhywedd penodol yma.

"Mi oedd hi yn haws dilyn y llwybr i Lundain i fynd i wraidd y mater yma..."

Eglurodd ei bod yn gallu bod yn "heriol ac arteithiol" trefnu apwyntiadau yn Llundain: "Roedd rhaid trefnu aros dros nos weithiau, cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith, plant i ffwrdd o'r ysgol.

"Roedd mynd i Lundain yn ychwanegu haen y bysa ni wedi gallu gwneud hebddo, mi fysa wedi bod yn gymaint haws a hefyd y posibilrwydd o gael gwasanaeth Cymraeg neu dwy ieithog petai'r gwasanaeth ar gael yng Nghymru."

'Effaith ddirdynnol'

Ac fe ddylai'r gwasanaeth newydd, medd Iola, gynnwys darpariaeth i blant: "Dwi'n meddwl ei fod o'n holl-bwysig ei fod o'n cael ei gynnig i bobl o bob oed, achos ma plant ifanc iawn yn gallu wynebu'r heriau yma.

"Dwi'n un, a dwi'n sicr y byddai bobl broffesiynol sy'n delio â'r peth, yn credu'n gryf mai gorau po gynta ewch chi i wraidd y materion yma efo plant.

"Mae'n gallu cael effaith ddirdynnol ar iechyd meddwl a dweud y gwir, a hynny wedyn yn cael effaith ar deulu i gyd, felly, ie haleliwia os ydyn nhw'n dod a gwasanaeth i blant."

Disgrifiad o'r fideo, Mam Joe, Iola, sy'n sôn am y math o wasanaethau sydd eu hangen

Wrth ymhelaethu ar yr ymrwymiad yn y gyllideb ddrafft, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd y nawdd ychwanegol sydd wedi ei gynnwys yn y gyllideb yn help i wella'r driniaeth i'r rheiny sydd ag anhwylderau bwyta a chefnogi darpariaeth hunaniaeth rywedd yng Nghymru.

"Mae manylion ynghylch dyraniad terfynol yr arian yn cael ei trafod ar hyn o bryd a byddwn yn rhyddhau mwy o fanylion yn y dyfodol agos."

Disgrifiad o'r llun, Gobaith Joe yw astudio celf mewn prifysgol.

Dyw'r daith ddim ar ben i Joe. Mae yna driniaethau o'i flaen, ond mae e'n obeithiol am y dyfodol: "Dwi'n gwybod bo fi'n lwcus iawn.

"Mae'n dibynnu lot ar ble ti'n byw a pwy yw'r bobl o amgylch ti, ond dwi'n meddwl, yn byw yn agos i Gaerdydd, lle mae 'na lot o wahanol math o bobl, roedd pobl yn deall e'n well.

"Falle byse fe'n wahanol os byse fi'n byw mewn tref llai neu rywbeth."