Â鶹ԼÅÄ

Cwestiynu cost polisi gofal plant Llywodraeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
ChwaraeFfynhonnell y llun, PA

Mae awdur adroddiad i Lywodraeth Cymru ar ofal plant am ddim wedi dweud y byddai'r polisi'n costio llawer mwy na'r hyn y mae Llafur yn ei dybio.

Yn ystod ymgyrch etholiad y Cynulliad, dywedodd y blaid y byddai rhoi 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim am 48 wythnos y flwyddyn i rieni sy'n gweithio yn costio £84m yn ychwanegol yn flynyddol.

Ond wrth siarad gyda rhaglen Sunday Politics Wales, dywedodd awdur yr adroddiad, Gillian Paull y gallai'r gost fod mor uchel â £200m os byddai'r polisi'n llwyddo i gyrraedd y nod o gynorthwyo mwy o rieni i mewn i waith.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn gweithio ar "fodelau cymhleth" o'r gost.

Addewid

Roedd yr addewid i gynnig 30 awr o ofal plant am ddim yr wythnos yn un o brif bolisïau etholiadol y blaid Lafur ac mae nawr yn rhan o'u rhaglen lywodraethu.

Bydd y gofal am ddim ar gael i rieni plant tair a phedair oed am 48 wythnos y flwyddyn.

Fe wnaeth adroddiad gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru y llynedd gynhyrchu nifer o amcangyfrifon am gost y polisi.

Dywedodd mai'r gost fyddai £84m os byddai gofal plant yn cael ei gynnig i rieni sy'n gweithio ac os byddai 87% yn derbyn y cynnig ar gost o £5 yr awr.

Daeth awdur yr adroddiad, Gillian Paull o Frontier Economics, i'r casgliad y byddai'r polisi'n annhebygol o annog llawer o rieni yn ôl i'r gwaith.

Ond dywed Llywodraeth Cymru fod y polisi yn cael gwared ar un o'r "prif rwystrau i fyd gwaith".

Disgrifiad o’r llun,

Gillian Paull o Frontier Economics yw awdur yr adroddiad

Cost

Dywed Gillian Paull y byddai'r gost flynyddol yn cynyddu'n sylweddol petai'r polisi yn llwyddo i wneud hynny.

"Mae'r amcangyfrif costau [yn yr adroddiad] yn seiliedig ar ymateb bach iawn mewn ymddygiad gwaith.

"Os byddai ymateb mwy fe allai'r gost fod yn sylweddol uwch - rhieni yn mynd i weithio am fod gofal plant ychwanegol am ddim yn gysylltiedig â gofynion gwaith.

"Y terfyn uchaf mwyaf rhesymol fyddai tua £200m, yn seiliedig ar ymateb eithafol gyda bron i bob rhiant ar gael i weithio."

Pryderon

Mae pryderon wedi codi hefyd am argaeledd gofal plant mewn rhai rhannau o'r wlad.

Dywedodd David Dallimore o Brifysgol Bangor y gallai'n rhaid i'r llywodraeth ddod o hyd i arian ychwanegol i ariannu cynnydd yn nifer y llefydd fyddai'n cynnig gofal plant.

"Mae rhai problemau sylfaenol y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru eu datrys cyn i ni allu cynnig yr 20 awr ychwanegol," meddai.

"Y sialens gyntaf yw argaeledd gofal plant yng Nghymru. Mae'n fratiog.

"Mae'n dibynnu llawer ar ble'r ydych yn byw. Mae gan Gymru lai o lefydd gofal plant o'i gymharu gyda gwledydd eraill y DU.

"Er enghraifft os edrychwn ni ar nifer y llefydd o'i gymhariaeth â maint y boblogaeth, mae'n rhyw 30 o lefydd ar gyfer pob 100 plentyn.

"Mae'n rhyw 40 yn Lloegr a 50 yn yr Alban."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

'Hyblygrwydd'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein cynnig am ofal plant wedi ei anelu at gefnogi teuluoedd sy'n gweithio a chefnogi rhieni i mewn i waith, gan roi hyblygrwydd cynyddol o ran eu dewisiadau gwaith.

"Mae'n bwysig ein bod yn gwneud hyn yn iawn felly rydym yn ei ddatblygu'n ofalus.

"Rydym yn ymwybodol fod materion yn ymwneud â chapasiti a chost mewn rhai ardaloedd o Gymru ac rydym yn gweithio gyda'r sector gofal plant i ateb hyn.

"Rydym hefyd yn gweithio ar fodelau cymhleth o'r gost."

Sunday Politics Wales, Â鶹ԼÅÄ One Wales, 11:00 ddydd Sul.