Penodi penseiri i ddatblygu Neuadd Pantycelyn

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi penodi tîm o benseiri i weithio ar gynlluniau i ailddatblygu neuadd Pantycelyn.

Cafodd y cytundeb ei roi i benseiri Lawray yn dilyn proses dendro ar ran y Brifysgol.

Bydd y cwmni'n gyfrifol am y cam nesaf yn y cynlluniau datblygu ar gyfer y prosiect £10m i ddarparu 200 o ystafelloedd en-suite ar gyfer myfyrwyr ynghyd â darpariaeth arlwyo. Mae gofodau cymdeithasol a chyfleusterau at ddefnydd myfyrwyr a'r gymuned leol hefyd yn rhan o'r cynlluniau.

Fel rhan o'r cytundeb, bydd Lawray yn paratoi cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer Pantycelyn a adeiladwyd ym 1953 ac sy'n adeilad rhestredig Gradd II.

Dywedodd Is-Ganghellor Dros Dro Prifysgol Aberystwyth, yr Athro John Grattan: "Mae'r cyhoeddiad hwn yn gam arwyddocaol arall ymlaen yn ein bwriad i ailagor Pantycelyn fel neuadd breswyl sy'n addas ar gyfer myfyrwyr yr 21ain ganrif. Mae hefyd yn golygu ein bod yn cadw at yr amserlen a osodwyd ar gyfer ailagor yr adeilad erbyn mis Medi 2019.

"Tra bo penseiri Lawray yn symud ymlaen â'r cynlluniau pensaernïol, byddwn ni'n parhau i ganolbwyntio ar y cyllid er mwyn sicrhau fod pob dim yn ei le.

"Ers ei ddynodi'n neuadd cyfrwng Cymraeg yn 1973, mae myfyrwyr Pantycelyn wedi gwneud cyfraniad pwysig nid yn unig i fywyd Prifysgol Aberystwyth ond hefyd i'r diwylliant Cymraeg yn gyffredinol.

"Fodd bynnag, mae dirfawr angen ailwampio ar yr adeilad bellach ac rydym yn edrych ymlaen at weithio'n agos gyda'r tîm o Lawray i wneud Pantycelyn unwaith eto yn lle eithriadol i ddysgu a byw."

'Statws arbennig'

Dywedodd Chris Evans, sy'n Gyfarwyddwr gyda chwmni penseiri Lawray: "Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn y cytundeb yma i weithio ar adeilad sydd â statws mor arbennig yng Nghymru ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu'r prosiect gyda Phrifysgol Aberystwyth.

"Fel cwmni â'i wreiddiau yng Nghymru a swyddfeydd yng Nghaerdydd a Wrecsam, rydym yn teimlo'n gryf am y cyfle sy'n cael ei gynnig gan brosiect Pantycelyn i wneud gwahaniaeth sylweddol i'r gymuned leol ac i Gymru yn gyffredinol.

"Ein gweledigaeth yw creu adeilad nad yw'n cynnig llety i fyfyrwyr yn unig, ond un a fydd hefyd yn gweithredu fel canolfan i ymgysylltu â'r iaith Gymraeg a'i diwylliant bywiog."

Mae swyddfeydd Undeb Myfyrwyr Cymru Aberystwyth UMCA ym Mhantycelyn ar hyn o bryd ac fe ddywedodd y Llywydd, Rhun Dafydd: "Mae hyn yn newyddion calonogol iawn ac mae UMCA yn edrych mlaen at gydweithio gyda'r penseiri er mwyn siapio Pantycelyn at y dyfodol."