Â鶹ԼÅÄ

Cyngor Sir Gâr i godi'r tai cyngor cyntaf ers yr 80au

  • Cyhoeddwyd
tai cyngor

Cyngor Sir Caerfyrddin fydd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i adeiladu tai cyngor newydd ers y 1980au, mewn ymgais i fynd i'r afael â'r diffyg cyflenwad o dai fforddiadwy.

Bwriad Sir Gâr yw adeiladu 60 o dai dros y ddwy flynedd nesaf mewn buddsoddiad gwerth £8.5m mewn pedair ardal benodol.

Mae'r awdurdod hefyd yn prynu tai ar y farchnad agored er mwyn ychwanegu at ei stoc, gyda dros 20 o dai wedi eu prynu eleni ar gost o £1.7m.

Dywed y cyngor sir eu bod yn gobeithio darparu 1,000 o dai fforddiadwy ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf.

Yn ôl y Cynghorydd Linda Evans, Aelod o'r Bwrdd Gweithredol sydd yn gyfrifol am dai, mae yna 6,500 o bobl yn aros am dŷ cyngor tra dim ond cyfanswm 9,000 o dai sydd ym meddiant y cyngor sir.

Dywedodd fod y sir wedi prynu 27 o dai eleni, a bod 11 arall yn y broses o gael eu prynu.

'Arloesi'

"Ni ddim yn mynd i adeiladu 1,000 o dai ychwanegol, beth i ni'n golygu ei wneud yw ei wneud mewn sawl gwahanol ffordd, prynu tai, dod a thai segur yn ôl i ddefnydd, rhentu tai ar ran pobl eraill a hefyd gweithio neu gydweithio gyda chymdeithasau tai.

"Mae 'na lot o dai ar werth ac yn segur yn sir Gaerfyrddin.

"Rhaid i ni fod yn arloesol, ma' yna dai ar werth o fewn y sir, rhai ar werth ers tipyn o amser."

O ran y tai fydd yn cael eu codi o'r newydd, mae safleoedd wedi eu clusnodi yn Llwynhendy, Penbre, Llandybie, Llanymddyfri, Drefach a Rhydaman ar gyfer 61 o dai fydd yn cael eu hadeiladu yn ystod 2016-17.

Wrth ymateb i gyhoeddiad Cyngor Sir Caerfyrddin, dywedodd Sioned Elin, Cadeirydd rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith:

"Llongyfarchwn Gyngor Sir Caerfyrddin ar eu bwriad i ailddechrau adeiladu tai fforddiadwy yn y sir. Rydym yn arbennig o falch hefyd o weld eu bod yn prynu tai addas sydd ar werth, gan y bydd hyn o gymorth i gymunedau pentrefol Cymraeg lle nad oes eisiau datblygu stadau.

"Gofynnwn i'r Cyngor roi sylw arbennig i ddarparu unedau bychain i bobl ifainc er mwyn helpu lleihau'r allfudiad o'n pobl ifainc o'r sir ac fel na thanseilir y gwaith da dros y Gymraeg a wneir trwy'r system addysg."