Â鶹ԼÅÄ

'Rhagfarn' at athrawon o leiafrifoedd ethnig

  • Cyhoeddwyd
Athrawon

Mae "rhagfarn" tuag at athrawon o gefndir ethnig lleiafrifol yn bodoli yng Nghymru, yn ôl ffigwr amlwg yn y sector addysg.

Betty Campbell MBE oedd y person cyntaf o leiafrif ethnig i fod yn bennaeth ar ysgol yng Nghymru.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf mae .

Bydd elusen Dangos Cerdyn Coch i Hiliaeth Cymru yn rhannu eu gwaith ymchwil o adroddiad 'Hiliaeth yn y system addysg yng Nghymru' yn y Senedd ddydd Mawrth.

Mae'r elusen, sy'n agosáu at ei 10fed pen blwydd yng Nghymru, yn galw ar y sector addysg i weithredu ar frys i "atal y llanw cynyddol o agweddau hiliol ymhlith pobl ifanc yng Nghymru".

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Ond yn ôl Mrs Campbell, does dim llawer wedi newid er gwell ers dros 50 mlynedd.

"Yr unig beth alla i feddwl yw bod yna lawer o ragfarn yn dal o gwmpas a dydw i ddim yn meddwl bod gan bobl lawer o feddwl o athrawon du," meddai wrth Cymru Fyw.

"Nes i gymhwyso fel athrawes yn 1963, ond faint [o athrawon du] sydd wedi dod drwodd ers hynny?

"Rhagfarn yw e'n rhannol, ond mae hefyd yn anwybodaeth. Dyw pobl methu newid eu safbwyntiau o gwbl. Pan ddes i yn brif athrawes am y tro cyntaf roedd 'na staff yn yr ysgol oedd ddim eisiau gweithio 'da fi. Dwi'n credu ei fod e'n farn hiliol mewn sawl ffordd."

Disgrifiad o’r llun,

Fe dderbyniodd Betty Campbell MBE yn 2003 am ei chyfraniad i addysg ac i fywyd cymunedol

'Ymroddedig'

Ychwanegodd: "Roeddwn i'n gobeithio erbyn hyn y byddai 'na lawer mwy o athrawon du yng Nghaerdydd ond yn anffodus does dim llawer," meddai.

"Ond alla i ddim dweud beth yw'r prif reswm am hynny. Dwi'n credu bod rhywfaint o ragfarn ond yw pobl dduon yn cael eu hannog i geisio am y swyddi?"

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru maen nhw'n parhau i fod yn "ymroddedig i sicrhau fod athrawon yn gynrychiadol o'u cymunedau" ac eu bod yn "annog pobl o bob cefndir i ystyried gyrfa fel athrawon".

Ychwanegodd eu bod yn "edrych yn ofalus" ar er mwyn sicrhau fod athrawon yn adlewyrchu'r bobl y maen nhw'n eu gwasanaethu.

Dywedodd llefarydd ar ran y rheolydd annibynnol Cyngor y Gweithlu Addysg fod y canran isel o athrawon o gefndir BME (Black and Minority Ethnic) wedi bod yn "gyson bob blwyddyn ers i gofrestru ddod yn orfodol" yn 2007.

"O ystyried y tan-gynrychiolaeth cyson a sylweddol yma o grwpiau ethnig yn y gweithlu'n bresennol, a'r twf o amrywiaeth ym mhoblogaeth ein hysgolion, mae'n amser i ni fynd i'r afael â hyn o ddifrif," meddai.