Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Caryl Parry Jones

  • Cyhoeddwyd
caryl parry jones

Caryl Parry Jones sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Eistedd mewn twll yng ngardd fy Nain yn Ffynnongroyw. Fan 'na o'n i'n mynd i fyfyrio cyn bod myfyrio yn "thing"!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Gareth Hughes o Dreffynnon... roedd o yn Fform pump pan o'n i yn Fform dau ac oedd ganddo fo sideburns a phopeth! Hefyd Steve Heighway oedd yn chwara' i Lerpwl yn y 70au a Marty o'r New Seekers.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Deud wrth y boi 'ma bo fi'n licio'i wallt o yn hir fel 'na a'i gomplimentio fo ar golli cymaint o bwysau ac yna fo'n deud diolch a'i fod o ar ganol cael sex change.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Gwylio 'Garden Rescue' wsos dwetha.

Disgrifiad o’r llun,

"O mam bach sbia pwy sy'n Ateb y Galw wsnos yma!"

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Byta gormod, siarad gormod, chwyrnu!

Beth yw dy hoff le yng Nghymru a pham?

Anodd dewis. Wrth fy modd wrth y môr a ma' digon o hynna yng Nghymru ac wrth fy modd ac yn lwcus iawn i fyw ym Mro Morgannwg sydd yn wledig ac yn fendigedig ond yn ddigon agos i Gaerdydd sy'n ddinas ffantastig. Ond cyn belled a bod pobl grêt yna, dio'm ots lle faswn i.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Pen-blwydd fy merch Miriam eleni... am laff! Bwyd da, ffrindiau gorau, miwsig gwych.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Gweithgar, dros bwysau.

Beth yw dy hoff lyfr?

Harpo Speaks - hunangofiant Harpo Marks.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Wel allwn ni FYW heb yr un ohonyn nhw. Ond dwi'n arbennig o hoff o siaced ledr las ac fy uchelgais ydi ei ffitio hi eto ryw ddydd.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Y Star Wars dwetha dwi'n meddwl. Dal ddim yn ei dallt hi.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Bydda Jennifer Lawrence yn grêt os ydy hi'n rhydd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Caryl yn Llywydd y Dydd pan ddaeth Eisteddfod yr Urdd i'w milltir sgwâr yn Sir y Fflint yn gynharach eleni

Dy hoff albwm?

Albym Nadolig fy arwr, James Taylor.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn a be' fyddai'r dewis?

Pwdin... unrhyw beth hefo cwstard. Mae pwy bynnag ddyfeisiodd gwstard yn genius. CARU cwstard.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Beyonce - no brainer.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Dot Davies

Caryl fydd yn cyflwyno rhaglen gyntaf o 07:00 tan 10:00.

Bydd Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru Mwy ar gael trwy Gymru ar wefan Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru, ap Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio a DAB yn y De Ddwyrain.