Chwilio am enwau babis?

Wrth i 2016 ddirwyn i ben ydych chi'n chwilio am enwau addas ar gyfer eich plentyn?

Hon yw'r rhestr ddiweddara' o'r enwau mwyaf poblogaidd, o darddiad Cymreig, gafodd eu cofrestru y llynedd (2015) yng Nghymru, yn ôl y Swyddfa Ystadegau (ONS).

Enwau o darddiad Cymreig yn 2015 (a'u safle ar y rhestr yn 2014): Bechgyn

1) Dylan 163 (1)

2) Osian 127 (3)

3) Harri 120 (2)

4) Jac 97 (6)

5) Rhys 95 (4)

6) Evan 92 (5)

7) Tomos 76 (8)

8) Cai 70 (9)

9) Ioan 68 (10)

10) Morgan 67 (7)

Does yna ddim newid i'r rhestr o ran enwau newydd, ond mae'r drefn wedi newid rhywfaint. Mae Osian yn cynyddu mewn poblogrwydd eto eleni, tra bod Morgan wedi disgyn lawr i'r degfed safle.

Disgrifiad o'r llun, Oedd llwyddiant y ddau Osian yma wedi dylanwadu ar rieni Cymru tybed?

Enwau o darddiad Cymreig yn 2015: Merched

1) Seren 119 (1)

2) Ffion 105 (4)

3) Erin 101 (3)

4) Megan 91 (2)

5) Mali 64 (5)

6) Nia 48 (-)

7) Alys 47 (7)

8) Carys 44 (-)

9) Efa 43 (-)

10) Cadi 37 (6)

Mae Seren yn serennu eto ar ôl dod i'r brig y llynedd. Mae Nia, Carys ac Efa yn codi i'r 10 uchaf. Yn 2014, Elin, Lois a Lili oedd yr enwau poblogaidd eraill yn y 10 uchaf.

Disgrifiad o'r llun, Dolig Llawen!