Â鶹ԼÅÄ

Gogoniant arfordir Cymru

  • Cyhoeddwyd
ArfordirFfynhonnell y llun, Ron Evans/Getty Images

Ydych chi'n chwilio am rhywbeth i'w wneud cyn i wyliau'r haf ddod i ben? Beth am ymweld ag arfordir cyfoethog Cymru? Hyd yn oed os nad ydych chi'n mwynhau nofio, pysgota neu godi cestyll tywod mae 'na ddigon o weithgareddau amrywiol i'ch cadw'n ddiddig.

Cerith Rhys Jones o elusen WWF Cymru sy'n rhannu ei gyngor gyda Cymru Fyw:

1. Gweld y dolffiniaid ym Mae Ceredigion

Heidiwch i Gei Newydd a pheidiwch anghofio'r sbeindrych! Mae 'na deithiau cwch ar gael hefyd i chi gael cyfle i weld y dolffiniaid ac ambell i lamhidydd (porpoise). Mae gan yr

2. Chwilio am bara lawr ar draethau Sir Benfro

Mae traeth Freshwater West yn Sir Benfro yn adnabyddus fel lleoliad un o ffilmiau Harry Potter ac am fod yn lecyn da i syrffio. Ond mae'n le da i chi hefyd fynd i chwilio am wymon ac

Disgrifiad o’r llun,

Traeth eang Freshwater West

3. Cuddio yn nhwyni tywod Merthyr Mawr

Mae twyni tywod Merthyr Mawr i'w gweld rhwng traethau Aberogwr a Phorthcawl ym Mro Morgannwg. Rhain yw'r twyni tywod ail uchaf yn Ewrop ac mae'n Safle o Ddiddorddeb Gwyddonol Arbennig (SSSI). Cafodd golygfeydd o ffilm enwog 'Lawrence of Arabia' eu ffilmio yma yn y 60au cynnar. Wyddoch chi hefyd bod y twyni yn cael eu gweld hefyd fel amddiffynfa rhag llifogydd?

4. Gwneud halen ar Ynys Môn

Ydych chi erioed wedi dyfalu sut mae halen o'r môr yn cyrraedd y bwrdd bwyd? Mae cwmni Halen Môn yn egluro'r broses i ymwelwyr.

5. Cadw'r traethau yn lân

Mae 'na ymgyrch arbennig fis nesa' ar hyd a lled arfordir Prydain i lanhau'r traethau. Ond mae angen cadw'r traethau ar eu gorau bob mis o'r flwyddyn. Beth am wirfoddoli i gadw'ch traeth lleol yn lân a diogelu'r bywyd gwyllt? Mae gan

Disgrifiad o’r llun,

Arfordir Cymru: Golygfeydd gogoneddus rownd pob tro

6. Chwilio am ffosiliau ym Mhenarth

Mae 'na . Mae'r ardal wedi ei dynodi yn Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Ewch am dro ac mae'n siŵr y dewch chi ar draws rhywbeth diddorol.

7. Cerdded Llwybr yr Arfordir

870 o filltiroedd! Dyna yw hyd . Gallwch chi weld rhai o ryfeddodau mwyaf Cymru a golygfeydd bendigedig bron iawn rownd pob cornel.

8. Gweld cynefin y Pâl

Mae Ynys Sgomer ger arfordir Sir Benfro yn warchodfa natur naturiol ac yn un o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yr Undeb Ewropeaidd. Rhwng Sgomer ac Ynys Sgogwm gerllaw mae yna tua 10,000 o barau o balod - ffigwr sy'n dal i dyfu. Mae yna deithiau cwch yno'n rheolaidd o Martin's Haven tan fis Hydref.

9. ...a llawer mwy!

Yn ogystâl a phalod, mae pob math o rywogaethau i'w gweld ar yr arfordir gan gynnwys gwylog (guillemots) a gweilch y penwaig (razorbills) ). Os ewch chi i Ynys Lawd ger Caergybi fydd dim angen sbeindrych arnoch chi i weld y gwylog. Mae'n bosib hefyd y dewch chi ar draws gloÿnnod byw prin.

10. Pryd blasus o sglodion... a physgodyn

Be' well i orffen diwrnod o antur a chwilota ar yr arfordir na pryd o sglodion a physgodyn wedi ei ddal yn lleol? Trwy ddewis y pysgodyn iawn i'w fwyta gallwn gadw'n moroedd yn iach a sicrhau bod y creaduriaid sy'n byw ynddyn nhw yn ffynnu. Ry'n ni i gyd yn dibynnu ar ein moroedd, nid yn unig am fwyd, ond hefyd am hamdden a swyddi. .

Rydyn ni mor lwcus bod gymaint o'r môr o'n cwmpas yng Nghymru. Mae'r moroedd yn rhoi hwb i'n bywyd gwyllt bendigedig ac mae'r cynefinoedd o'u cwmpas yn anhygoel.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Traeth godidog Barafundle yn Sir Benfro