Pryder bod 'mwy o fyfyrwyr Cymru yn llên-ladrata'

Mae pryderon wedi eu codi ynglŷn â'r nifer cynyddol o wefannau sydd yn cynnig ysgrifennu traethodau i fyfyrwyr am arian.

Yn ôl gwybodaeth ddaeth i law Â鶹ԼÅÄ Wales Today, mae hanner prifysgolion Cymru wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion o lên-ladrata yn y pum mlynedd diwethaf.

Mae gwelliannau technolegol, niferoedd uwch o fyfyrwyr a chost cynyddol addysg brifysgol i gyd yn cael eu hystyried fel ffactorau sydd wedi cynyddu'r pwysau ar fyfyrwyr a chyfrannu at y sefyllfa.

Dywedodd y corff sy'n gyfrifol am fonitro safonau Addysg Uwch eu bod yn gweithio â'r sector er mwyn ceisio taclo'r broblem, ond ei bod hi'n "anodd" dweud weithiau a oedd traethodau wedi cael eu hysgrifennu ar gyfer myfyriwr gan rywun arall.

Mae undebau myfyrwyr yn pryderu am yr oblygiadau ariannol i fyfyrwyr sy'n defnyddio gwefannau o'r fath, yn ogystal â'r peryg y gallen nhw gael eu diarddel o'u cyrsiau.

'Anodd adnabod'

Ffynhonnell y llun, SPL

Y gred yw bod hyd at 1,000 o wefannau sy'n cynnig traethodau i fyfyrwyr am ffi, ac er nad ydyn nhw'n anghyfreithlon, maen nhw'n aml yn rhybuddio defnyddwyr am gosbau llên-ladrata.

Rhwng 2010/11 a 2014/15 fe ddyblodd nifer y myfyrwyr israddedig ym mhrifysgolion Abertawe, Aberystwyth, Caerdydd a Met Caerdydd gafodd eu hymchwilio ar ôl cael eu hamau o lên-ladrata.

Roedd cynnydd bychan hefyd yn y nifer o fyfyrwyr uwchraddedig dan amheuaeth yn Abertawe, Aberystwyth a Bangor.

Roedd nifer yr achosion wedi amrywio yn y prifysgolion eraill dros yr un cyfnod.

Twyllo a llen-ladrata

Fe gyfaddefodd Cyfarwyddwr Gonestrwydd Academaidd Prifysgol Abertawe, Mary Paget, y byddai prifysgolion wastad yn gorfod delio â rhai achosion o fyfyrwyr yn twyllo ond bod y gwefannau gwerthu traethodau yn peri gofid newydd.

Ychwanegodd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch: "Does dim lle ar gyfer twyllo a llên-ladrata o fewn addysg uwch ym Mhrydain, ac mae prifysgolion a cholegau'n cymryd eu cyfrifoldebau yn y maes hwn o ddifrif.

"Mae'r cwmnïau hyn yn cynnig traethodau i fyfyrwyr am ffi. Dydyn nhw ddim yn anghyfreithlon, ac fel arfer mae ganddyn nhw rybuddion yn erbyn llên-ladrata.

"Fodd bynnag, waeth pa mor dda mae eu polisïau a'u meddalwedd nhw, mae'n anodd adnabod a yw gwaith wedi cael ei ysgrifennu'n arbennig ar gyfer myfyriwr gan drydydd person megis gwefan draethodau.

"Rydyn ni nawr yn y broses o drafod y mater yma gyda'n partneriaid ni o fewn y sector addysg uwch."